Dygymod 芒 chaethiwed
Golygfa ryfeddol oedd gweld y tyrfaoedd enfawr yn Burma yn troi allan i groesawu Aung San Suu Kyi ar 么l ei chaethiwed hir.
Mwy rhyfeddol fyth oedd gweld ei hurddas tawel hi a'i chlywed yn annerch ei phobl heb rithyn o chwerwedd, heb gondemnio dim ar y rhai fu'n gyfrifol am ei chaethiwo a heb unrhyw s么n am ddial na thalu'r pwyth yn 么l.
Sut fydd y Junta milwrol yn ymateb i'w galwad am fwy o ddemocratiaeth a rhyddid a hawliau dynol, wyddon i ddim ond y dirgelwch mwyaf ydi sut y llwyddodd y wraig unigryw hon i gadw ei phwyll a'i serenedd a'i hysbryd tangnefeddus dros gyfnod o bymtheg allan o un ar hugain o flynyddoedd o gaethiwed i'w th欧, heb weld ei theulu, heb deledu na chyfrifiadur - dim ond ei radio a'i llyfrau.
Yn myfyrio
Yn 么l bob s么n roedd yn treulio bob dydd yn myfyrio, yn darllen ac yn gwrando ar y radio ac ar gerddoriaeth.
Dywedodd un sylwebydd amdani ei bod wedi llwyddo i droi ei hunigrwydd yn unigedd.
Mae yna wahaniaeth rhwng y ddau beth. Ryda ni i gyd yn gwybod rhywbeth am unigrwydd, yn enwedig y rhai hynny ohono ni sy'n byw ar ben ein hunain.
Ryda ni'n gwybod y gall unigrwydd fod yn enbyd o boenus a'n bwrw ni weithiau i ddigalondid llethol.
Cyflwr creadigol
Mae unigedd, ar y llaw arall - 'solitude' yn Saesneg - yn gyflwr creadigol. Mae'n golygu meithrin llonyddwch mewnol ac yn y llonyddwch hwnnw ddod i nabod ein hunain yn well, canfod adnoddau ysbrydol, mewnol, profi gwir dangnefedd a hefyd ddod i nabod Duw.
Mae'n amlwg fod Aung San Suu Kyi wedi deall gwerth unigedd. Ac mi fentrwn i awgrymu y byddai'n bywydau prysur, swnllyd, ninnau hefyd ar eu mantais o dreiddio rhywfaint i'r cyflwr dirgel, tangnefeddus hwnnw.