Drudwy ar adain
Tua'r amser yma fore Iau diwethaf cafwyd sioe ryfeddol yn y pentref. Dyma stopio yn yr unfan.
O'n ni newydd gamu tu fas i'r drws, i wagio'r bin sbwriel ac fe dywyllodd yr awyr i gyd.
Wrth edrych i fyny dyma weld, yn llythrennol, filoedd ar filoedd o adar yn hedfan uwchben. O lle daethon nhw , does gen i ddim syniad, na chwaith does gen i ddim syniad i lle roedden nhw yn mynd.
Ac wrth i'r cyfan fel petai ddod i ben dyma haid arall yn dilyn. Digwyddodd hynny rhyw dair neu bedair gwaith. Mawredd, roedd hi'n dipyn o sioe.
Nid hedfan mewn llinell syth oedd y drudwy, ond mynd yn blith draphlith, a phob tair i bedair eiliad yn newid eu symudiadau a lefel yr uchder, lan a lawr, a throi i wahanol gyfeiriad.
Ar amrantiad roeddent yn cyfateb i'w gilydd, fel eu bod yn dilyn cyfarwyddiadau manwl. Welais i neb yn ei harwain. Anodd dychmygu a fu proses hyfforddiant. Roedden nhw fel petaent wedi ei rhaglennu fel yr awyrennau di beilot, dieflig hynny sy'n cael eu profi yn Aberporth i gario bomiau i'w gollwng filoedd o filltiroedd bant.
Credu ynddynt eu hunain
Yr hyn a'm tarodd oedd na ddigwyddodd yr un ddamwain. Wrth newid cyfeiriad welais i'r un yn bwrw mewn i'w gilydd a disgyn yn glats i'r llawr.
Yn rhyfeddol, roedd pob un fel petae nhw yn gwybod lle ro'n nhw am fynd a phryd yn union i fynd, gan gredu yn eu hunain.
Os yw t卯m rygbi Cymru am ennill gemau rhaid cael cyd-dynnu a chyd ddeall a ffydd a hyder a'r hunangred.
A rhywle arall yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn roedd tipyn o s么n am hynny. Megis bwydo'r 5,000 gyda phecyn bwyd llencyn ifanc oedd ond a phum torth a dau bysgodyn.
Do, allan o'r hyn sydd mewn perygl o droi yn friwsion o Sianel gwelwyd dyhead a dymuniad i gyd-dynnu i'w hachub.
Cyrraedd rhywle
Neithiwr, bum mewn cyfarfod i roi trefn ar yr Ysgol Sul a'r un oedd y neges - yr angen i gyd-dynnu a chyd weithio yn oedolion a phlant.
Pan wneir hynny gyda'r awydd yn glir ac wrth i bawb anelu at un cyfeiriad, onid dyna pryd y cyrhaeddwn rhywle?
Yn llawn cyn bwysiced, onid dyna pan fydd y daith yn hwyl a phleser?
Ac oni fyddai pawb yn falch o weld yr olygfa - fel yr adar yn hedfan da'i gilydd uwch ben.