91热爆

Mae'n ffair

gan Cen Llwyd
Bore Llun Tachwedd 1 2010

Diwedd tymor

Yma yn Llambed, sydd chwe milltir o Lanybydder, mae Tachwedd 1 yn ddyddiad arwyddocao. Dyma ddiwrnod Ffair Santesau yn Llanybydder.

Yn 么l y s么n, fe'i henwyd ar 么l hen gastell uwchben y pentref. Santesau - Dolwlff yw e nawr.

Mae'n codi'n serth, drigain neu ragor o droedfeddi o'r caeau islaw gyda'i hanes yn ymestyn yn 么l i ddyddiau'r Normaniaid - er ei fod wedi cael ei adeiladu a'r y ffurf roedd y Rhufeiniaid, ganrifoedd ynghynt, yn codi eu hamddiffynfeydd hwy.

Oferedd a gwagedd?

Mae ffeiriau megis carnifalau, syrcas a phantomeimau wedi cael eu difr茂o am fod yn oferedd ac yn llawn gwagedd - os yw hynny yn gwneud synnwyr!

Eto, yn eu dydd, yng nghalendr cymdeithasol ac economaidd yr ardaloedd hyn, roedd ffeiriau fel Ffair Fartin, Ffair Gwenog a Ffair Dalis a llu o rai eraill yn allweddol a gwerthfawr.

Byddai'n ben tymor wrth i weision a morynion eu mynychu i gael eu cyflogi a'r meistri yn casglu ynghyd i gyflogi.

Ffermwyr yn dod a'u cynnyrch a'u hanifeiliaid i'w gwerthu er mwyn cael arian i dalu cyflog y gwas a'r forwyn a chlirio hen gownt.

Yn bwysig

Roeddent yn bwysig eithriadol yn hynt y flwyddyn amaethyddol.

Ar noson Ffair Calan Gaeaf byddai'r gwartheg yn cael eu clymu yn y beudy dros y gaeaf. Rhaid oedd eu bwydo dan do at y gwanwyn.

Newidiodd pethau yn ddirfawr erbyn heddiw ond eto fe gynhelir marchnadoedd anifeiliaid a llawer yn cyfeirio atynt yn 么l enw'r ffeiriau.

Daw'r ffeiriau pleser yn eu tro sydd hefyd yn cael eu cysylltu ag enwau'r hen ffeiriau.

Pan ddaw ffair bydd hwrlibwrli a rhialtwch gyda'r hyrdi gyrdi a s诺n y trugareddau a'r hwyl yn fwrlwm egn茂ol.

Wedyn daw distawrwydd, a llonyddwch.

Gall hynny fod yn anodd iawn. Pan fo'r cyffro yn tawelu mae'n anodd dod n么l a'n traed ar y ddaear.

Neithiwr, nos Calan Gaeaf, mae'n si诺r nad oedd y gnoc annisgwyl ar y drws, ymhell o fod yn j么c ddoniol i'r un oedd yn unig y tu fewn.

Yn waeth heddiw

Fel arfer yr amser yma o'r bore mae hi fel ffair adref. Mae'n si诺r o fod yn waeth heddiw wedi seibiant gwyliau yr wythnos ddiwethaf.

Er cael awr ychwanegol echnos, galla'i ddychmygu mai ras yn erbyn y cloc yw hi i lawer ohonoch chithau y bore 'ma eto.

Ochr arall y geiniog yw mudandod o fywyd dibwrpas gyda dim byd penodol i anelu ato neu dawelwch unigrwydd sy'n ein llethu?

Onid yw hynny hefyd yn medru bod yr un mor anodd?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.