Pwy laddodd yr Ymerawdwr?
Fe welsoch chi'r hanes, si诺r o fod. Mae rhywun wedi saethu'r carw coch urddasol, hardd, hwnnw oedd yn crwydro Exmoor yn Nyfnaint.Yr Ymerawdwr, yr anifail gwyllt mwyaf yn y deyrnas, oedd yn sefyll naw troedfedd uwchben y ddaear.
Cymerodd rhywun wn a'i saethu, a hynny, yn 么l y s么n, cyn iddo gael cyfle i gyplu a phasio'i enynnau ymlaen i genhedlaeth arall. Rhywun wedi penderfynu bod yr arian y bydda fo'n ei gael am ei gyrn, rhai miloedd o bunnau mae'n debyg, o fwy o werth na bywyd yr anifail druan ei hun.
Isel eu gwerth
Wrth i oblygiadau cynlluniau gwariant y Llywodraeth ddod yn gliriach inni o dipyn i beth, mae'n amlwg bod pethau fel addysg prifysgol o fewn cyrraedd pawb, gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y rhai mwyaf anghenus, iaith a diwylliant cenedl fach a gofal a chysur yr henoed wedi eu cyfrif yn isel eu gwerth, ac felly'n dargedau hawdd.
Ond ymhell cyn i'r Canghellor anelu ei wn at y rheini, aeth rhywbeth o'i le ar ein gwerthoedd ni a hwythau'n cael eu troi wyneb i waered.
Ers blynyddoedd bu lleisiau masnach a busnes yn ceisio'n perswadio bod popeth sy'n werth ei gael yn bethau y gellir eu prynu ag arian.
Bydd y lleisiau hynny'n uchel iawn eu cloch yn ystod yr wythnosau nesa, sy'n arwain at y Dolig.
'Wayne's World'
Does fawr ryfedd mewn gwirionedd ein bod ni wedi creu sefyllfa lle y gall un dyn gael ei dalu chwarter miliwn o bunnau yr wythnos am gicio p锚l.
Daeth "Wayne's World" yn fyd i bob un sy'n gwybod pris popeth a gwerth dim.
Pwy saethodd yr Ymerawdwr yn y gwerthoedd a'r ffordd o fyw yr ydan ni'n ei phasio ymlaen i'r genhedlaeth nesa?
Ond trwy'r cwbwl, mae Iesu'n dal i'n rhybuddio: "Er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau."