糯yn Bach Melangell
Yn nhymor yr hydref fel bob amser arall rydan ni angen encil. A dyma un yr hoffwn i rannu 芒 chi.
Trowch i fyny yn Llangynog oddi ar y briffordd o'r Bala i Groesoswallt, a gadewch i'r Cwm hyfryd hwn weithio ei hud.
Nid Eglwys Santes Melangell yn unig yw'r atyniad ond cyfaredd yr holl ddyffryn tangnefeddus hwn a tharddiad Afon Tanat.
Yma mae'r heddwch yn drwchus, ac amser yn simsanu dro. Dyma le i adael llawer o bethau i'r tangnefedd hefyd - ein hofnau duon a'n gofidiau.
Dagrau yn fy llygaid
Byddaf yn wastad yn dod yma i gyfarfod Duw 芒 dagrau yn fy llygaid. Dagrau o ofid a siom ambell dro ond hefyd dagrau o lawennydd.
Fe gafodd Melangell effaith drawiadol iawn ar dywysog Brochwel o Bowys tua'r flwyddyn 604. Fe aeth ysgyfarnog i guddio rhag helfa'r tywysog ym mhlethiadau ei sgert, ac roedd ei thaerineb a'i gwyleidd-dra yn ddigon i beri newid.
Rhoddodd Brochwel y cwm yn rhodd iddi, ac fe sefydlodd hi leiandy a seintwar i anifeiliaid gwyllt. Efallai mai naws hynny sy'n parhau yn natur ddiaddurn y cwm a'r cysegr, a gelwir ysgyfarnogod yn lleol yn "wyn bach Melangell".
Mi fydda i hefyd yn hoffi gadael y Cwm efo gwirionedd oesol arall, sef y gwirionedd mai gweithred hardd yw tynnu'n 么l - tynnu'n 么l o'r helfa, o ryfel, o hen gynnen.
Cael eu llorio
Ar lefel bersonol wrth dynnu'n 么l o hen wrthdaro, yn aml iawn mae'r personau ymwthgar, ymosodol, sydd yn eich erlid yn cael eu llorio a'u syfrdanu i'r fath raddau fel y torrir ar y cylch ffyrnig.
Ateb trais a drygioni'r byd efo pluen maddeuant. Fel cuddio ysgyfarnog ym mhlethiadau sgert.
Ymhell o bobman, mae popeth ym Mhennant Melangell, a phorth i fyd arall sy'n cysylltu 芒 gorwelion pellach.
Ers rhai blynyddoedd mae dioddefwyr cancr wedi dod i'r Ganolfan gerllaw yr Eglwys i yfed o'r llonyddwch hwn wrth fyw efo'u hafiechyd.
Pam trafferthu i bendraw'r Cwm fyddai cwestiwn rhai mae'n si诺r? Mae'r ateb mewn englyn hynafol.
Rhwng 1788 a 1812 bu Ezekeil Hamer yn ficer yn yr Eglwys ac mae cwpled o'i englyn yn crisialu'r hyn sy'n arbennig am Bennant i mi:
"Cwm iachus; nid oes i chwi
ond cam i Ne' o'n cwm ni"