Mi 'rydw i yn teimlo'n unig!
"A!" medda chi! "Go brin!"
A hynny oherwydd fy mod i o bryd i bryd yn dirnad fy stad fel unig blentyn, heb na brawd na chwaer.
Siarad hefo fi'n hun rydwi wedi ei wneud gydol f'oes! 'Doedd yna neb i rannu'r 'pethau' y mae brawd a chwaer yn eu dweud wrth ei gilydd - yn enwedig yng nghyfnod llencyndod.
Pethau na fedra nhw fyth eu deud wrth eu rhieni ac er i mi greu ffrind o'r enw 'Colin' drwg 'Colin' oedd ei fod o'n debyg ryfeddol i mi gan gytuno 芒 fy holl feddyliau!
David ac Ed Miliband
A mi ddaeth yr ymdeimlad o unigrwydd yr unig blentyn i'r fei eto wrth wylied David ac Ed Miliband yn cwffio'n go hegar am arweinyddiaeth y Blaid Lafur a'u hangen ill dau, i ddeud o bryd i bryd "Ond dwi'n caru mrawd."
Fel petai'r faneg focsio yn tyneru o reidrwydd i fynegi 'rhywbeth' dyfnach.
Y ddwy enghraifft lachar yn y Beibl o ddau frawd ydy Cain ac Abel a'r brodyr yn nameg Y Mab Afradlon
Cain, wrth gwrs, yn lladd ei frawd a'r mab ieuengaf yn gadael ei frawd h欧n am 'wlad bell'.
Yn y ddau achos y mae'r brodyr yn gwahanu - un drwy ffordd ysgeler iawn.
A dyna sy' raid ddigwydd, ia ddim?
Prosesau seicolegol
Disgrifio 'prosesau' seicolegol y mae'r ddwy stori.
Er mwyn ffeindio pwy ydw i mae'n rhaid i ni wrth sgarmes. Lladd rhywbeth - nid yn llythrennol! - ond yn fewnol a symud i ffwrdd er mwyn dychwelyd yn bobl hollol wahanol a dyfnach.
Y rhai sy'n cael trafferthion ydy'r rheiny sy'n gwrthod cwffio a gwahanu a'r rhai sy mewn rhyw fodd 'yn aros adra'.
Nid gan y mab fenga yr oedd y problemau ond gan yr hynaf arhosodd lle roedd o!
Boed ni'n unig blant neu ddim dangosodd David ac Ed Miliband rywbeth llawer pwysicach i ni nag arweinyddiaeth dros dro plaid.
Proses y mae'n rhaid inni gyd fynd drwyddi.