Cyhuddwyd fi echdoe o fod yn rhagfarnllyd.
Do wir.
Mae'r rheini sy'n nabod fi yn synnu at y fath gyhuddiad, tra bod y bobl sy'n nabod fi'n dda yn synnu dim!
Cystal cyfaddef, o'm corun i'm sawdl dwi'n gymhlethdod o ragfarnau. Fel mae'r rhan fwyaf ohonom.
Am wn i, llai na pherson yw'r hwnnw sydd yn ymateb i bopeth bob amser yn gwbl ddiduedd. Cymeriad digymeriad ydyw, lledwan - llwyd fel lludw.
Un ffordd o adnabod person go iawn yw dod i adnabod ei ragfarnau.
Yn erbyn rhyfel
Gwn am un hen 诺r - yr addfwynaf o bobl, a'i holl osgo yn ymgorfforiad o foneddigeiddrwydd a moes. Heddychwr, ac wrth drafod y pwnc hwnnw mae gewynnau ei wyneb a'i ddwylo'n tynhau, daw ei ragfarn yn erbyn rhyfel yn gwbl amlwg.
Mae gen i ragfarn bendant yn erbyn rhai pethau a rhagfarn sicr o blaid pethau eraill.
Mae gen innau - fel chithau, ie fel chithau - ragfarnau llenyddol, crefyddol, diwylliannol, addysgiadol, gwleidyddol.
Rhagfarnau am fwyd a diod, am ambell unigolyn sydd, dim ond o'i gweld, yn suro llaeth fy nydd, am garafans, am ddynion yn eu hoed a'u amser gor-fol-eddus yn gwisgo crysau p锚l-droed - os bu na amser rywbryd i chi chwarae dros eich annwyl d卯m p锚l-droed, yr amser hwnnw a aeth heibio, byth eto i ddychwelyd!
A gwell imi beidio dechrau s么n am werth clatsio p锚l fach wen o un man i'r llall.
Angen pob math o ragfarn
Oes mae gen i bob math o ragfarnau - dychmyged pawb drosto'i hun bellach, rhag i mi godi gormod o fwganod.
Rhaid meddwl am ein rhagfarnau weithiau, rhag bod gwenwyn yn cronni ynddynt.
Felly, dwi'n rhagfarnllyd. Wrth gwrs fy mod i'n rhagfarnllyd, a wyddoch chi beth, mi gredaf fod Duw yn rhagfarnllyd hefyd.
Mae ganddo ragfarn bendant yn erbyn tlodi, newyn, tywallt gwaed, anghyfiawnder a phobl yn chwarae crefydd fel mae plant yn chwarae t欧.
Gan mai Duw yw Duw, mae ei ragfarn ef ar raddfa anferthol, cosmig; awesome fel petai.
Os ydwyf o ddifri am wasanaethu'r Duw hwn, mae'n rhaid i mi fod 芒 rhagfarn yn erbyn yr union bethau y mae ganddo yntau ragfarn yn eu herbyn.
A phwy a w欧r, pe byddem ni - yr eglwys - ychydig yn fwy rhagfarnllyd am pethau hynny sydd yn haeddu chwip ein rhagfarn, y buasai llai o ragfarn yn ein herbyn am fod fel lloi yn y llaid.