Teimlo'r duwch
Caewch eich llygaid - ond peidiwch a mynd yn ol i gysgu!
Caewch eich llygaid mor dynn ag y medrwch chi a meddyliwch am y tywyllwch.
Dim ond unwaith dwi di bod yn y Big Pit - ac mae rhai blynyddoedd ers hynny - ond wnai byth anghofio'r gorchymyn i ni ddiffodd y goleuadau oedd ar ein helmedau a syllu i'r tywyllwch duaf a welais erioed.
Mae meddwl amdano'n dal i godi arswyd arnai. Tywyllwch oeddech chi'n ei deimlo bron - yn cau'n dynn amdanoch a'ch gwasgu.
Aeth 54 diwrnod ers i'r 33 mwyngloddiwr gael eu claddu dan y ddaear yn Chile - 54 machlud a 53 gwawr a hwythau yn nhywyllwch dudew crombil y ddaear.
Mewn gobaith
Ochr arall y stori yw'r gwersyll ar yr wyneb lle mae teuluoedd y dynion wedi gosod eu pebyll - camp hope!
Dyna enw sy'n cyfleu ysbryd a dycnwch bobl mewn sefyllfa ddirdynnol. Bobl yn mynnu gobeithio er gwaetha'r duwch, er gwaetha'r anawsterau a'r pellter sydd rhyngddynt a'u hanwyliaid.
Maent yn cael ambell i hwb weledol i'w gobaith, wrth gwrs, fel gweld y gawell arbennig gyntaf yn cyrraedd i gludo dyn i fyny o'r dyfnder ond mae'r gobaith sy'n eu cynnal nhw'n y disgwyl hir yn tarddu'n ddyfnach na hynny, does bosib!
Ac i lawr yng nghrombil y ddaear, mae presenoldeb y teuluoedd a'u gobaith, yn ei dro'n cadw fflam gobaith a dycnwch y dynion yn fyw.
Mae'r argyfwng yma'n glir - y tywyllwch yn un y gallwn ni i gyd ei deimlo - a'r ffordd at ryddid hefyd yn fater o wyddoniaeth a pheirianneg yn cydweithio.
Yr un ffydd
Mae na argyfyngau eraill nad ydynt mor hawdd i'w dirnad yn dod i ran pobl bob dydd - ond mae'r un ffydd a gobaith a dyhead yn gyfrwng nerth a chynhaliaeth yno hefyd.
Deuwch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog ac mi a esmwythaf arnoch, ydi addewid Iesu ac mae'n dal i gynnal a nerthu a chynnig diddanwch i bawb sy'n derbyn y gwahoddiad!
Gewch chi agor eich llygaid r诺an!