Mae hi'n Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol heddiw - breuddwyd un person yn 1999 sydd bellach wedi cael ei derbyn fel polisi gan bob un o wledydd y Cenhedloedd Unedig ac mi fydd yna ddigwyddiadau ar draws y byd i ddathlu heddwch eto eleni.
Ers tair blynedd bellach mae Affganistan, wedi dathlu diwrnod heddwch drwy sicrhau cytundeb cadoediad gan bob ochr ac mae mwy na phedair miliwn o blant wedi cael eu brechu rhag polio - hynny'n bosibl wrth i bobl roi eu hegni a'u hamser i achub bywydau yn hytrach na'u dinistrio.
- Yn Swdan maent yn cael cyfle i glirio ffrwydron tir.
- Ar Arfordir Ifori byddant yn rhannu bwyd i'r mannau mwyaf anghysbell.
- Yn Azerbaijan bydd ysbyty mamolaeth a chlinic yn cael eu hagor.
- Yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo bydd cyfle i ddosbarthu rhwydi mosgito.
- Ac yma, yng Nghaernarfon, byddwn yn gwobrwyo enillwyr y gystadleuaeth Poster Heddwch - disbyblion o Ysgol Eifionydd ac Ysgol yr Eifl.
Efallai mai penderfyniad ydi heddwch a deud y gwir - ond, yn amlach na pheidio, dydan ni ddim yn ddigon penderfynol i'w wireddu.
Ewch i weld y posteri yng Nghyntedd Cyngor Gwynedd yr wythnos hon - a rhowch wybod i Radio Cymru be da chi am wneud acw - mi fase'n braf cael newyddion llawn o ddigwyddiadau heddwch - a digon o wahoddiadau i gadw Hywel Gwynfryn yn brysur tan Dolig!