91热爆

Perygl - t芒n!

Fflamau

gan Bethan Mair
Bore Gwener, Medi 17 2010

Coelcerthi anghymdogol

Cafodd Pastor Terry Jones ei bum munud o enwogrwydd yr wythnos diwethaf, am fygwth llosgi'r Koran ar nawfed pen-blwydd trychineb 'nine-eleven'.

Diolch byth, synnwyr cyffredin aeth 芒 hi yn y pen draw yn achos y gweinidog o Fflorida, er y bu'n rhaid i awdurdod uchaf yr Unol Daleithiau, yr Arlywydd Obama ei hun, ymbil ar Pastor Jones i gallio.

Cofiwch, dal i fod yn hollol ddiedifar y mae Terry Jones gan ddisgrifio'r weithred o losgi llyfrau fel un o 'ddiogelu gair Duw'.

Rhan o hanes

Mae protestio trwy losgi llyfrau wedi bod yn rhan o hanes gwrthdystio crefyddol ar hyd y canrifoedd - dyna oedd y Bonfire of the Vanities gwreiddiol, a llosgwyd aml i destun amhrisiadwy gan bobl oedd yn gwrthwynebu'r hyn a ysgrifennwyd ynddo, yn Gristnogion, Iddewon, Moslemiaid ac aelodau crefyddau eraill.

Ond un o'r esiamplau enwocaf o losgi llyfrau oedd hwnnw gan y Nats茂aid yn 1933 pan aethpwyd ati'n seremon茂ol i losgi llyfrau y barnwyd gan y ffasgwyr fod eu cynnwys yn wrth Almaenig.

Ar gofeb y digwyddiad, yn Berlin heddiw, gellir gweld llinell gan Henrich Heine, geiriau a ysbrydolodd gerdd gan yr Athro Gwyn Thomas sy'n dechrau 芒'r llinell Llyfrau yn y t芒n. Mae'r gerdd yn gorffen, Yfory, pobl yn y t芒n.

Yn ffrainc

Wrth feddwl am weithredoedd eithafol, ac am Nats茂aeth alla i ddim 芒 pheidio meddwl am yr hyn sy'n digwydd yn Ffrainc.

Yno, mae'r wladwriaeth gyfan yn bygwth gweithredu polisi yr un mor eithafol o hyll yn fy marn i, er nad oes dim llosgi llyfrau i fod i ddigwydd.

Mae'r Arlywydd Nicolas Sarkozy yn ceisio grym i alltudio holl genedl y Roma - y sipsiwn fel yr oedden nhw i T Llew Jones gynt - allan o dir Ffrainc oherwydd, mae e'n honni, fod y bobl hyn - o Romania a Bulgaria yn bennaf - yn achosi anhrefn ac yn gyfrifol am ganran uchel o droseddu mewn dinasoedd fel Paris.

Dechrau'r diwedd

Alltudio pobl fu dechrau'r diwedd yn yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd ac mae gweld y math hwnnw o weithredu mewn gwlad ddemocrataidd, flaengar, fel Ffrainc yr un mor wrthun 芒 meddwl am Gristnogion yn yr Unol Daleithiau yn llosgi'r Koran.

Mmm. Peth hyll yw 'ni'n well na chi', sut bynnag y cwyd ei ben. Ble mae "c芒r dy gymydog fel ti dy hun" tybed?

Heddiw, llyfrau yn y t芒n. Yfory, pobl yn y t芒n.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.