Pwyslais ar wrando
Wel, mae Bened ar ei ffordd - y pab cyntaf i ymweld 芒'r ynysoedd hyn ers ymweliad Ioan Pawl yr ail, yn 么l ym 1982.
Rhyw led ymweld 芒 ni a wnaeth Ioan Pawl, gan i'r Fatican gredu mai anodd fuasai ymweld yn swyddogol 芒 Lloegr a Chymru gan ein bod ni, ar y pryd, yn ymrafael a'r Ariannin Babyddol am ynysoedd y Falkland.
Ond y tro hwn mae'r Pab yn dod ar ymweliad swyddogol, llawn, gyda'r holl rwysg a seremoni sydd ymhlyg.
Am wn i, daw gwahoddiad i Bened ymweld yn swyddogol 芒 rhywle neu'i gilydd o hyd ac nid oes modd i neb, heb s么n am hen 诺r 82 oed dderbyn pob gwahoddiad o'r fath.
Ond anodd iddo oedd peidio 芒 derbyn y gwahoddiad i ymweld 芒 Phrydain gan i'n pobl o Brydain ymweld mor gyson ag e' yn ddiweddar.
Bu pum ymweliad 芒'r Pab yn y chwe blynedd aeth heibio gan brif weinidogion San Steffan. Ymwelodd Mrs Blair a Mrs Brown hefyd 芒 Bened.
Galwodd Charles gyda'r Pab yn gynharach eleni. Teg yw dweud fod llywodraeth San Steffan wedi gweithio'n galed, galed, i gael Bened i ddod, ac yfory fe ddaw.
Profiad ysbrydol
I nifer o bobl, bydd yr ymweliad swyddogol hwn yn brofiad ysbrydol mawr. Hir fu'r disgwyl a thrwyadl y paratoi.
Mae rhai yn swnian, cwyno, grwgnach - fel mae rhywrai bob amser - am drefniadau a chost yr ymweliad a rhai yn protestio oherwydd iddynt gael ei brifo'n ddwfn gan yr eglwys Babyddol ac, o'r herwydd, gan yr eglwys Gristnogol - wel, os un teulu ydym ni, un teulu ydym mewn dyddiau drwg a da.
Yr enw
Pan gymerodd Joseph Ratzinger wrth estyn i'w gadair fel pab, yr enw Bened, bu llawer o s么n am arwyddoc芒d dewis enw y mynach hwnnw, sydd a'i reol yn dechrau'n syml gymhleth gyda'r gair, "Gwrandewch".
Fy ngobaith yw hyn yn syml: y bydd ymweliad Bened yn gychwyn ar gyfnod newydd o wrando.
Os bydd ei ymweliad yn arwain at barodrwydd newydd ymhlith pob lliw, llun a llewyrch o Bobl Ffydd i wrando yn fwy gofalus ar ei gilydd, ac efallai'n bwysicach fyth, ar y gymdeithas o'u cwmpas, bydd yr ymweliad yn lwyddiant mawr.
Cawn weld.