Onid yw dylanwad y cyfryngau torfol yn rhyfeddol? Sut medde chi, y clywais fod rhieni yng nghyfraith Wayne Rooney yn Gatholigion?
Mae'n rhaid mod i wedi clywed rhywbeth ar y radio neu wedi gweld nodyn yn y papur. Dyna effaith y wasg a'r cyfryngau. Maen nhw'n rhannu gwybodaeth gyda ni - yn y dybiaeth ein bod yn magu diddordeb yn yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.
Ai creu fy niddordeb i mae'r wasg ynteu ymateb i'm diddordeb? Gwerthu cylchgronau neu estyn cylchrediad a wna'r wasg, cynyddu nifer y gwylwyr a'r gwrandawyr a wna'r cyfryngau, a hynny drwy fod yn effeithiol yn eu gwaith.
Onid perthynas ddylai fod rhwng y darparwr a'r gynulleidfa, gyda'r gwylwyr a'r gwrandawyr yn arwain?
Pwy biau'r cyfrwng?
Fe glywsom droeon 'mai'r bobl bia'r cyfrwng'. Ond a yw hynny'n wir?
Beth am y gweisg wedyn? Pwy sy'n penderfynu pa berson enwog sy'n cael y comisiwn i ysgrifennu hunangofiant? Pwy benderfynodd fod y cyn brif- weinidog yn bwrw iddi i ysgrifennu un?
Dydw i heb ei ddarllen eto ond wedi clywed cymaint o drafod arno. A Journey - Taith. Onid yw pawb ar daith? Mae'r syniad o daith yn golygu mynd o un man i fan arall.
Busnes Tony Blair yw ei daith ef - beth am ein taith ni? O ble - i ble?
A yw hi'n siwrne ddiddorol, a fu yna ddatblygiad iddi, ynteu taith troi yn ei hunfan yw hi?
Mae cyfeiriad y daith yn dibynnu'n helaeth ar beth a gredwn, boed hynny yng nghyd-destun ffydd grefyddol ai peidio.
Os gwir y gair mai'r bobl bia'r cyfrwng, ni sy'n llunio hanes ein taith - a hynny yn ddyddiol. Beth fydd yn mynd lawr ym mhennod heddi? Sylwedd neu sgandal. Gobaith neu diflastod. Dywedwch chi.