Dydw i fawr o economegydd ond yn fodlon credu bod ein gwlad mewn dyled a bod angen gwneud rhywbeth . Wedi'r cyfan, faint dani'n wario bob dydd ar ryfel? A faint roesom ni i achub y banciau dro'n ol?
Be sy'n fy mhoeni i, yn fwy na'r ddyled, ydi'r ffordd y mae'r Llywodraeth am ddelio 芒 hi - drwy ddisgwyl i'r taliadau mwyaf ddod gan y tlotaf a'r mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Rhy bell
Mae'r bygythiad diweddaraf i dorri'r biliynau yn ychwanegol o'r system fudd-daliadau yn gam rhy bell.
Gwelsom eisoes fod y toriadau'n golygu colli swyddi ond wrth i'r niferoedd sy'n hawlio budd-daliadau gynyddu, mae'r arian ar eu cyfer yn lleihau a hwythau'n cael eu gwasgu o bob cyfeiriad.
Yn anorfod, bydd economi etholaeth fel Caernarfon, lle mae, ar gyfartaledd, 30 o bobl yn cynnig am bob swydd, yn cael ei heffeithio'n drymach o lawer nag etholaeth y canhgellor ei hun lle nad oes ond pump o bobl yn ymgeisio am bob swydd.
Bugail tlawd oedd Amos, un o broffwydi cyfiawnder yr Hen Destament ond rhoddodd rybudd clir i'r cyfoethog i beidio 芒 sathru'r anghenus a difa tlodion y wlad.
Arweinwyr eglwysig
Efo'r Pab ar ei ffordd, byddai'n dda clywed arweinwyr eglwysig yn cymryd safiad tebyg dros degwch ond efallai mai gwaith yr undebau llafur ydi gwneud hynny bellach.
"Rydym i gyd yn hyn efo'n gilydd," ydi sbin Cameron ond mae'r sinig ynof i'n mynnu gofyn ai damwain yw hi bod deunaw miliwnydd yn rheng flaen ei lywodraeth o?
Ond, fel y dwedais i, dydw innau fwy nag Amos ddim yn economegydd! Be da chi'n feddwl, tybed?