Mae yna dros 30 mlynedd ers i mi ddal y bws ym Mhencader a theithio i Ysgol Llandysul i gasglu canlyniadau arholiadau Lefel A - rwy'n dal i gofio'r gwewyr!
A oeddwn wedi pasio? A fyddwn i'n medru mynd i'r brifysgol? A fyddai fy athrawon yn hapus a'm canlyniadau? Bydd llawer disgybl yn derbyn y canlyniadau drwy'r post erbyn hyn - ond yr un yw'r gofidiau!
Yn corddi
Eleni eto tebyg bydd yna drafod manwl ar gadw safonau. Mater arall sy'n corddi yw'r posibilrwydd, os nad sicrwydd, y bydd nifer o ddarpar fyfyrwyr yn methu cael lle mewn prifysgol. Bu i'r Llywodraeth gyfyngu ar gwota derbyn prifysgolion; o ganlyniad bydd siom yn goddiweddyd llawr darpar-efrydydd.
Camgymeriad Llywodraeth Llafur Blair oedd datgan y dylai 50% o bobl ifanc gwledydd Prydain fynychu sefydliadau addysg drydyddol gan i hyn orfodi ein prifysgolion i gynyddu'r nifer o fyfyrwyr yr oeddent yn eu derbyn, yn aml iawn heb fod ganddynt adnoddau digonol mewn pobl na chyfleusterau.
Yn hawl
Codwyd gobeithion disgyblion - trodd mynd i brifysgol yn norm disgwyliedig yn hytrach na chyfle unigryw. Erbyn hyn, a ninnau mewn cyfnod o gyni economaidd mynna'r Llywodraeth nad yw'n prifysgolion i dderbyn mwy o fyfyrwyr, a hynny er mwyn gostwng gwariant.
Yn sicr, ni ddylid rhoi crocbren arian ar addysg - mae meithrin gwybodaeth a dysg yn hawliau y dylid eu sicrhau i bawb sy'n dymuna eu derbyn. Ond, nid yw addysg prifysgol i bawb! Ac nid bod yn elitaidd yw dweud hynny!
Treulio oriau
Bydd Tiwtoriaid Prifysgol yn treulio oriau yn delio 芒 myfyrwyr sy'n methu ymdopi a thyrau ifori ysgolheictod; ieuenctid a fyddai, mewn gwirionedd, llawer hapusach tu allan i'n prifysgolion. Fe'n cyflyrwyd, ac mae hyn, 'rwy' am fentro dweud, yn arbennig o wir amdanom ni'r Cymry Cymraeg, i weld prifysgol fel allwedd i fywyd gwell ac i statws cymdeithasol.
Rhywsut, rhywfodd, yng nghanol hyn i gyd, bu i ni anghofio mai cymeriad a pharodrwydd i weithio yn y gymdeithas o'n hamgylch, nid gradd prifysgol, sy'n gwneud Cymro da!