Er mwyn yr ifanc
Go brin bod neb o wrandawyr y Post Cyntaf heb glywed am yr hyn sy'n digwydd ym Mhacistan.
Ddoe daeth newyddion am y tirlithriad yn China - hwnnw eto yn sgil glaw trwm.
Mae yn agos i 1,500 o bobl wedi eu lladd yn China ac mae'r ffigyrau o Bacistan yn cynyddu'n ddyddiol - bron 2,000 wedi eu lladd ond ymhell dros 12 miliwn wedi eu heffeithio.
Go brin y gall yr un ohonom beidio 芒 theimlo'n hollol ddiymadferth wrth weld y cyfan ar y cyfryngau.
Newid hinsawdd?
Ymateb llawer i'r digwyddiadau hyn yw newid hinsawdd.
Digwyddiadau naturiol yw'r rhain, digwyddiadau sydd wedi ymddangos yn hanes ein byd ers ei greu. Ond mae digwyddiadau o'r fath fel pe byddent yn dod yn amlach - ac mae hynny yn bendant yn rhywbeth mae gwyddonwyr newid hinsawdd yn ei ddarogan.
Holi wna eraill sut fedr Duw, Duw Cariad yw, ganiat谩u i'r fath beth ddigwydd. Datgan eraill mai cosb ar ddynoliaeth yw hyn i gyd. Go brin!
Efallai bod methiant y rhyw ddynol i stiwardio'r blaned yn arwain i'r sefyllfaoedd arswydus hyn ond go brin fod Duw Cyfamod Enfys Noa yn mynd ati'n fwriadol i ddinistrio.
Yr ifanc yn diodde
Wrth wylio'r newyddion o Bacistan a China neithiwr, anodd oedd peidio sylwi ei bod yn ymddangos, fel ag yn Haiti adeg y daeargryn, bod yr ifanc yn dioddef yn enbyd.
Hwy, yn aml, sydd fel pe baent wannaf i wrthsefyll effeithiau'r ddrycin. Can fod heddiw yn Ddydd Rhyngwladol Ieuenctid dyma ddiwrnod yn fwy nag unrhyw un arall y dylai ieuenctid Pacistan a China fod ar flaen ein meddyliau.
Eleni, dyma hefyd ddiwrnod cyntaf Blwyddyn Ryngwladol Ieuenctid y Byd.
Mynd ati o ddifrif
Priodol, felly, gan gofio sut mae bywydau cymaint o ieuenctid Pacistan a China wedi cael eu dinistrio - cymaint heb gartrefi, heb ddillad na bwyd, llawer wedi colli eu rhieni - yw i ni benderfynu mynd ati o ddifrif i wneud beth fedrwn dros ein pobl ifanc, boed hynny mewn anogaeth a chydymdeimlad yng Nghymru neu trwy gyfraniad dyngarol ym Mhacistan a China.
Wedi'r cwbl - ac er cymaint y gorddefnydd o'r ymadrodd, ond mae'n gwbl wir - hwy yw ein dyfodol.