91热爆

Rhoi a rhoi

Harri Owain Jones

gan Harri Owain Jones
Bore Nercher Awst 11 2010

Biliynau a hatling

"Dedwyddach rhoi na derbyn," meddai'r Testament Newydd ac mae pobl Prydain yn ymateb yn hael iawn i'r ap锚l i helpu dioddefwyr Pacistan.

Mewn wythnos derbyniwyd tros 拢4 miliwn i ap锚l DEC, ond mae'r dioddef a'r dinistr yn cynyddu bob dydd.

Dros y penwythnos darllenais bod 40 o bobl mwyaf cyfoethog Unol Daleithiau'r America wedi penderfynu rhoi mwy na hanner eu cyfoeth i hybu elusennau sydd yn ymateb i anghenion y tlawd a'r anghenus.

Cyn bennaeth cwmni Microsoft Bill Gates a'i briod a symbylodd hyn. Mae cyfoeth y cwbl ohonynt yn cyrraedd bron i 拢150 biliwn. Golyga hynny bod tros 拢75 biliwn yn cael ei roi at achosion da - ac mae gan y rhoddwyr fwy na digon tros ben.

Rhoi mwy

Pan welodd Iesu yn y deml un diwrnod y cyfoethog yn rhoi rhoddion hael yn y drysorfa a gwraig weddw yn rhoi dwy hatling, dywedodd, "Yn wir yr wyf yn dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb."

Arian tros ben oedd rhoddion y cyfoethog. Rhoi'r cwbl wnaeth y wraig weddw.

Gwelsom roi ac aberth o fath arall - wyth o wirfoddolwyr gwasanaethgar yn arbenigo mewn gwahanol gyfeiriadau yn cael eu lladd yn Affganistan.

Trychineb ofnadwy. Pobl wedi cysegru doniau i wella ansawdd byw trigolion anghenus Affganistan - pobl aberthwyd ar allor gwasanaeth oherwydd casineb ac eiddigedd.

Yn fraint

Oes mae 'na roi gwasanaeth a hwnnw'n wirfoddol ac, yn aml, yn aberth.

Mae rhoi i wella eraill yn fraint, ac yn gyfrifoldeb, yn alwad i rannu o'n gorau a diolchwn pan yw y rhoi yn dwyn ffrwyth.

"Dedwyddach rhoi na derbyn".


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.