"Can peth sy'n rhoi hanes y byd i ni." Dyna a gawn gan Neil Macgregor o'r Amgueddfa Brydeinig yn ei gyfres ar Radio 4.
Un bore, darn o aur maint cledr ei law oedd dan sylw ganddo ac wedi ei gerfio ar y darn roedd llun marchog a gai ei gario mewn cerbyd yn cael ei dynnu gan geffyl chwim.
Cyn pen dim yr oeddem n么l dros bum canrif cyn geni Iesu Grist ac yn y rhan honno o'r byd a alwn ni yn Irac ac Iran.
Beth oedd arwyddoc芒d y darn yn ei law? Roedd yn cynrychioli un o lu negeswyr ymerodraeth fawr y Brenin Cyrus.
Roedd hwnnw a'i fyddinoedd wedi goresgyn gwledydd ac, i reoli'n effeithiol, y dynion hyn yn y cerbydau oedd yn sicrhau bod cyfathrebu effeithiol rhwng y tiroedd eang.
Dywedodd Neil Macgregor wrthym fod s么n am y cyfnod hwnnw yn Llyfr y Proffwyd Eseia gan i Cyrus orchymyn rhyddhau yr Iddewon a gaethgludwyd i Fabilon 70 mlynedd ynghynt ac y caent ddychwelyd adref.
Cysurwch, cysurwch, fy mhobl, dyna ddywed eich Duw.
Dyna'r geiriau sy'n cael ei hailadrodd dro ar 么l tro. 糯yr yr ysgolheigion ddim pwy yw'r awdur er bod ei waith mor enwog ac mor ysbrydoledig.
Dyw'r bobol ddim yn credu'r peth, ddim yn gallu dychmygu symud a byw yn unman ond Babilon. Maen nhw wedi creu darlun o Dduw creulon, dialgar, sy'n becso dim amdanyn nhw, un a anghofiodd amdanyn nhw.
Ateb y proffwyd i hyn yw:
A anghofia gwraig ei phlentyn sugno neu fam blentyn ei chroth?
Wel, falle, ond nid anghofiaf fi di.
A chariad di-baid y tosturiaf wrthyt.
Mae'r Eseia yma yn cyfleu Duw mawr, grymus, a dylanwad dros ymerawdwr hyd yn oed ond un sy'n caru a gofalu.
Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, a minnau'n dy garu, myfi yw Duw sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy droseddau.
Darn bach maint cledr llaw dyn yn yr Amgueddfa Brydeinig yn f'arwain i at un o adnodau mwyaf y Beibl.