Be sy'n gyffredin i gystadleuaeth golff yn yr Alban, y sioe yn Llanelwedd a chofgolofn o flaen Coleg y Bala?
Mi dreuliais i ddeuddydd yng nghystadleuaeth golff yr Open gynhaliwyd eleni yn St Andrews ond peidiwch 芒 gofyn imi pwy enillodd, alla i ddim ynganu ei enw a doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd o.
Ond mi wn un peth amdano. Mi wn i be ydi o. Golffiwr o fri, un sy'n gallu taro'r b锚l yn syth ac ymhell, ac anelu'n gywir bron bob tro.
Ia, be ydi o, nid pwy ydi o sy'n bwysig yng nghystadleuaeth yr Open.
Yn y sioe
Mae hi'n wythnos y sioe fawr a chystadlu brwd yn mynd ymlaen yn yr holl adrannau.
Dwi ddim yn gwybod pwy ydi'r rhan fwya o'r enillwyr, peidiwch gofyn i mi eu henwi hyd yn oed ond mi wn i be ydyn nhw; rhai efo llygaid am anifail, rhai sy'n nabod safon, yn nabod pedigr卯, yn gwybod sut i fagu a datblygu anifail.
Be ydi o nid pwy ydi o sy'n bwysig i gystadleuydd yn y sioe.
Lewis Edwards
O flaen Coleg y Bala mae na gofgolofn i Lewis Edwards yr un sefydlodd y coleg.
Mi wyddwn i pwy oedd o ac roedd gen i ragfarn yn ei erbyn.
Snob, er ei fod o deulu cyffredin, Saisgarwr a sefydlodd y capeli Saesneg ymhlith y Methodistiaid, 'Yr English Cause' fel maen nhw'n cael eu galw.
Oeddwn, roeddwn i'n meddwl mod i'n gwybd tipyn amdano fo a doeddwn i ddim yn hoffi'r hyn wyddwn i.
Ond mi ddarllenais lyfr ardderchog Densil Morgan amdano fo a mi dwi wedi newid fy meddwl am mod i'n gwybod bellach nid pwy oedd o ond be oedd o.
Wyddoch chi mai fo oedd un o feirniaid amlycaf adroddiad Brad y Llyfrau Gleision ac fe ymosododd yn hallt ar rai o'i gyd Gymry oedd yn barod i gowtowio i'r Saeson rhagfarnllyd luniodd yr adroddiad.
Sefyll yn gadarn
Safodd yn gadarn dros addysg yn ei hystyr lawnaf a thros ddatblygiad llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg.
Ac wrth feirniadu snobyddiaeth yr adroddiad dyma ddwedodd o:
"Hir y parhao y Cymry i barchu pob un yn 么l ei deilyngdod gwirioneddol ac nid yn 么l ei fawredd amgylchiadol."
A dyna neges Lewis Edwards i bob un ohonom ni.
Mewn bywyd, boed hwnnw yn g锚m yn sioe neu'n goleg neu'n gymysgedd o'r tri, be ydym ni, nid pwy ydym ni sy'n bwysig.