Ac mae'r Frenhines wedi bod yn y newyddion wedi'i thaith i Ganada ac i Efrog Newydd. O gofio'i hoed, dydi hi'n dal i edrach yn dda.
Dyna fo, ma' hi a'r g诺r yn cael gofal iechyd ardderchog - diolch am hynny. O gymharu 芒 rhai.
Ond ro'n i'n gweld yn y Telegraph bod y wasgfa ariannol yn dechrau deud arni hithau. Wn i ddim ddaru chi sylwi ond yn y cinio 'na yn Nhoronto ffrog wedi'i hailgylchu oedd ganddi.
Darllen - nid sylwi
Cofiwch, darllen am y peth wnes i - nid sylwi ond roedd hi wedi gwisgo'r un dilledyn mewn cinio yn Nhrinidad fis Hydref dwytha; dim ond bod y wniadwraig wedi newid mymryn ar y ffrog fel ei bod hi'n edrych yn wahanol.
O! yng ngenau'r sach ma' cynilo'r blawd.
Dydi'r tai 'ma sgynni hi'n costio cymaint. Heblaw costau cynnal a chadw - fel sgynnon ni i gyd - mae angen gwario dybryd, meddir, ar Balas Buckingham ac ar Gastell Windsor.
Ceisio cynilo
Ond chwarae teg, yn 么l y Telegraph mae hithau am geisio cynilo ryw ychydig. Yn un peth, mae hi am deithio llai. Dydi'r ceir a'r awyrennau 'ma'n llosgi cymaint o danwydd.
R诺an, ella bod chi'n meddwl bod gin i ragfarn. Mi fydda 'na reswm dros hynny. Roedd Ellis y Sg诺l, yn Ysgol Mynytho 'stalwm, yn frenhinwr brwd ac mi aeth 芒 chriw ohonon ni bob cam i Gaernarfon inni gael gweld y Brenin - Si么r y Chweched.
A wyddoch chi be? Wel'is i mohono fo eto. Hwyrach bod Ieuan - mab y Braich - a finnau'n rhy brysur efo'n pethau fel nad oeddan ni'n dau ddim ar gael pan oedd y Brenin yn mynd heibio.
Diniweidrwydd
Na, wnes i ddim magu rhagfarn. Diniweidrwydd, hwyrach. Diniweidrwydd ydi credu y dylai cymdeithas fod yn fwy cyfartal. Achos:
Yn nheyrnas diniweidrwydd mae pawb o'r un ach;
Pob bychan fel pe'n frenin, pob brenin fel un bach . . .
Mae'r hyn sy'n cael ei wario ar y teulu brenhinol yn afresymol. 'Dach chi ddim yn meddwl? Ond, fasach chi yn newid byd efo'r Frenhines?
Faswn i ddim.