A dyna ni'n gwybod pwy yw'r ddau d卯m, y ddwy wlad, fydd yn rownd derfynol Cwpan y Byd nos Sul yn Ne'r Affrig.
Roedd Paul yr octopws yn gwybod o flaen pawb. Dyna'r honiad. 'Naill ai' 'neu' oedd y dewis i'r octopws. A phwy fydd o'n ei ddewis i ennill y cwpan tybed?
Deuddeg ar hugain o dimau yn cyrraedd De'r Affrig. Mae dau ar 么l. Dim Brasil, na'r Eidal nac Ariannin.
'Llaw Duw'
Ond fe ddaeth "llaw Duw" iddi eto. Nid Maradona y tro yma ond un o chwaraewyr Uruguay. A chafodd ei gario o gwmpas y maes fel arwr yn hytrach na'r twyllwr oedd o.
Llaw Duw?
Pymtheg modfedd o daldra yw Cwpan y Byd. Yn wag tu mewn ac addurn aur deunaw carat ar y tu allan. Hwnnw ar ffurf ddau ddyn yn cynnal y byd mawr crwn yn eu dwylo.
Mae 'na fater bach arall o wobr ariannol o 30,000 o ddoleri i'r enillwyr. Hynny a'r fraint o fod yn bencampwyr byd am bedair blynedd. Byd sy'n cael ei gynnal gan fodau dynol cofiwch.
Symbol goruchafiaeth
Ennill y tlws hwnnw fydd symbol goruchafiaeth y p锚l-droedwyr. Y capten buddugol yn codi'r cwpan i'r awyr. Ei gyd chwaraewyr yn neidio i fyny ac i lawr mewn gorfoledd. A chwaraewyr y t卯m arall yn eu dagrau o siom.
Cwpan arall
Tybed ga' i fod mor hy' a chynnig iddyn nhw fyd nad yw'n cael ei gynnal gan ddwylo dynion. A chwpan nad yw'n wag tu mewn. Roedd y cwpan yn llawn chwerwedd a chenfigen a chelwydd.
"Os yw bosib, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf," meddai'r Ceidwad. Ac nid ceidwad g么l oedd hwn ond y Ceidwad sy'n troi tristwch yn llawenydd a cholli yn ennill.
Onid fel'na y daw "llaw Duw" yn amlwg?