91热爆

Gwleidyddion

Ty'r Cyffredin

gan Aled Edwards
Bore Llun, Mehefin 21, 2010

I unrhyw un sydd am wneud gwleidyddion yn fwy poblogaidd nag ydyn nhw 'roedd ddoe yn y Sunday Times yn ddiwrnod gwael.

Yn 么l pob s么n, bydd George Osborne yn codi 拢10 biliwn mewn trethi yn ei gyllideb yr wythnos yma. Bydd sawl peth yn dod yn syth o'm mhoced i: unrhyw godiad mewn treth ar werth yn sicr.

Ymddiheuriadau i bawb sydd yn hoff o beint - ond ni fydd codiad mewn treth ar bethau felly yn effeithio'n fawr arnaf i.

Yn poeni

Dwi'n poeni am y sector cyhoeddus. Fel pawb arall yng Nghymru mae gen i lu o deulu a chyfeillion sy'n cael eu cyflogi gan y wlad yn athrawon, nyrsys, therapyddion a gweision sifil. Efallai y byddwn ni yn clywed am doriadau o 拢40 biliwn dros gyfnod y senedd bresennol.

Beth bynnag, dwi'n si诺r na fydd George Osborne yn dlawd nac yn ddi-waith.

Personol

Ar lefel mwy personol, cyhoeddwyd bod Cris Huhne am adael ei wraig ar 么l i bapur newydd ddatgelu ei fod mewn perthynas 芒 rhywun arall.

Ar yr un gwynt, cyhoeddodd y Times bod y fflatiau yn Admiralty House lle yr honnir i John Prescott gael perthynas 芒 Tracey Temple i'w troi efallai yn swyddfeydd. Mae'n rhaid cael rhyw ffordd o wneud gwerthu fflatiau yn ddiddorol!

Yn yr Unol Daleithiau

Yr ochr arall i'r Iwerydd, nid helyntion personol sy'n troi'r byd yn erbyn yr Arlywydd Obama, ond ei agwedd tuag at BP. Rhaid imi gyfaddef, er na fyddwn i'n cyfrif fy hun yn gyfaill mawr i'r cwmn茂au olew rhyngwladol, roedd rhywbeth yn amhriodol i mi yn y ffordd y cafodd prif weithredwr y cwmni, Tony Hayward, ei drin gan aelodau Senedd yr Unol Daleithiau.

Roedd yn rhaid bod yn greulon gyda'r dyn er mwyn plesio'r etholwyr gartref a rhoddwyd llawer o 'abiws'. Nid oes llawer o drugaredd i'w gael gan wleidyddion. Melltith arnyn nhw i gyd felly, ie?

Yn bobol

Go brin. Rai wythnosau'n 么l, cafodd yr aelod seneddol, David Ruffley, ei feirniadu'n hallt gan y wasg leol am faterion yn ymwneud 芒'i gostau.

Nid y fo oedd yr unig un, wrth gwrs, ond credir iddo ddioddef yn enbyd ers hynny o iselder ysbryd difrifol a rhai dyddiau'n 么l neidiodd o flaen tr锚n yn Victoria.

Diolch i'r drefn bu fyw drwy'r cyfan, ond dywedwyd taw'r hyn a oedd yn ei boeni oedd yr 'abiws' a ddioddefodd ar y strydoedd.

Mewn democratiaeth iach, y mae'n rhaid i wleidyddion gofio eu bod nhw yno i wasanaethu pobol a rhaid i bobol gofio taw bobol ydi gweledyddion.

Fe a ychydig o barch ymhell fe dybiwn i o'r ddwy ochr!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.