91热爆

Lle gwag

Rhan o Gwpan y Byd

gan Huw Tegid
Bore Mercher Mehefin 16 2010

Erbyn prynhawn heddiw, mi fydd pob un o'r deuddeg gwlad ar hugain sy'n cymryd rhan yng Nghwpan y Byd wedi chwarae g锚m yn y twrnamaint.

Erbyn Gorffennaf 10, mi fydd dau d卯m wedi cyrraedd y rownd derfynol ac un o gapteiniaid y timau hynny yn codi'r tlws sy'n cael ei gyflwyno i'r pencampwyr.

Aur i gyd?

Tlws aur ydi'r wobr, a hwnnw'n aur pur yn 么l FIFA, sef trefnwyr y gystadleuaeth.

Ond mae un athro cemeg o Brifysgol Nottingham yn amheus o'r gosodiad hwnnw ac ym marn yr Athro Martyn Poliakoff, pe bai'r tlws wedi ei wneud o aur pur, yna mi fyddai o'n pwyso o leiaf saith deg kilogram, neu un st么n ar ddeg os hoffech chi.

Gan hynny, mae o o'r farn fod y tlws, neu o leiaf ran ohono, yn wag.

Ac o s么n am bethau gwag, un o'r pethau sy'n mynd dan fy nghroen i ydi'r holl s么n am lefydd gwag pan fydd s么n am gau ysgolion bychan.

Mi glywson ni'r ymadrodd hyd syrffed pan oedd s么n am gau ysgolion bychan ym Mhenfro, Gwynedd a Dinbych, a r诺an dyma Sir Conwy yn cyhoeddi ei fwriad yntau i ad-drefnu ysgolion y sir. Sawl gwaith glywn ni s么n am lefydd gwag yn fanno, tybed?

Mewn ysbytai

Yr hyn sy'n rhyfedd ydi nad ydi'r un pwyslais ar lefydd gwag yn rhai o adrannau eraill y sector cyhoeddus. Dyna i chi ysbytai, er enghraifft. Os bydd gwely gwag yn digwydd bod ar ward, yna siawns fod hynny'n rhyddhau'r nyrsys a'r staff eraill i dreulio rhagor o amser gyda chleifion y gwelyau eraill.

Beth, wedyn, am y gwasanaeth casglu ysbwriel? Os ydi biniau yn wacach na'r hyn y gallen nhw fod, onid ydi hynny'n fendith i'r dynion a'r merched caredig sy'n codi cyn chi a fi i'w gwagio nhw?

A beth wedyn am ein priffyrdd? Onid ydi lonydd sy'n wacach na'r hyn y gallen nhw fod yn gwneud y profiad o deithio gymaint yn brafiach?

Heb weld

Yr hyn sy'n eironig ydi nad ydi'r Athro Poliakoff yn hoffi p锚l-droed. Wyliodd o erioed yr un g锚m yng Nghwpan y Byd, ddim hyd yn oed buddugoliaeth fondigrybwyll Lloegr yn rownd derfynol twrnamaint 1966.

Ac onid ydi o, yn debyg i uwch-swyddogion awdurdodau addysg Cymru, yn colli golwg ar yr hyn sy'n bwysig wrth ganolbwyntio gormod ar yr hyn a'r llall sy'n wag yn eu golwg nhw?

Pa un a ydi'r cwpan aur yn wag ai peidio, nid y cwpan ydi'r cymhelliant pennaf, siawns, i'r chwaraewyr, ond gwneud eu gorau a chael eu cydnabod fel pencampwyr y byd.

Pa mor llawn

Yn yr un modd, ai'r llefydd gwag honedig yn yr ysgolion sy'n bwysig, ynteu'r sylw y mae plant yn ei gael, pa un ai tri neu dri deg sydd o'r un oedran yn yr ysgol?

Yn debyg i'r hyn a ddywedir am gwpan enwog arall, oni ddylen ni geisio meddwl pa mor llawn ydi pethau, yn hytrach na cheisio mesur pa mor wag ydi pethau?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.