Mae'r cyfarwyddyd yn ddigon eglur. "C芒r dy gymydog fel ti dy hun."
Ond dywedwch, jyst rhyngom ni'r bore yma; a wnaethoch chi eu cefnogi Nhw nos Sadwrn? Da chi'n gwybod - t卯m p锚l-droed bobol drws nesa'.
Tair cyffes
O fewn dau funud y bore 'ma, mae gen i dair cyffes gyflym i chi. Dwi'n gwybod fy mod i'n drwg!
- Cyffes un: cyn nos Sadwrn diwethaf 'toedd gen i ddim syniad yn y byd pwy oedd Robert Green, gol geidwad Lloegr. Fe wnes i sawl camgymeriad wrth chwarae dros Glwb Cicio'r Cymry yn ddiweddar. Nid fi oedd yr unig un. Ond, truan ohono fo bu ei lun ef a'i gamgymeriad ym mhob papur dros y Sul.
Dwi jyst yn falch na welwyd fy nghamgymeriadau i ar dudalen flaen Y Cymro. Cydymdeimladau felly, Robat bach! - Mae'r ail gyffes yn waeth. Fe g锚s i wahoddiad i weld y g锚m ar deledu crand cyfaill agos imi sydd o eiddo pobol drws nesa'. Roedd y g锚m yn hynod o bwysig iddo fo ac roedd y gwahoddiad yn ddidwyll.
Fynnwn i ddim drwg iddyn nhw ac, o ddifrif, mi fyddai'n falch drostyn nhw os y galla nhw ennill Cwpan y Byd eto fel yn '1066' neu pryd bynnag oedd hi.
Ond, mi fydda'n well gen i fod yng nghwmni'r deintydd na gorfod gweld Lloegr yn chwarae am awr a hanner gyda'r holl sylwebu unllygeidiog na sy'n amgylchynu'r cyfan.
Mae gorfod caru cymdogion yn un peth, ond mae gorfod gwylio eu t卯m p锚l-droed nhw yn fater gwahanol. - Mae'r drydedd gyffes yn waeth byth mae gen i ofn. Ar 么l treulio trwy'r wythnos gyfan yn ceisio bod yn ddibechod drwy osgoi'r g锚m yn y papurau, ar y radio a'r teledu a phob garej sy'n gwerthu petrol, mi benderfynais i nos Sadwrn diwethaf y byddai'n rhaid i mi fynd am therapi yn Nhrefforest.
Mae cysgu gydag eliffant yn "OK" os nad ydio'n troi rownd neu yn chwythu ei drymped yn eich clust chi drwy'r amser.
Rhywbeth cwbl gadarnhaol
Yn hytrach na hyd yn oed dechrau meddwl y byddwn i'n dymuno gweld t卯m p锚l-droed Lloegr yn colli, fe wnes i rywbeth cwbl gadarnhaol.
Am yr ail dro yn fy mywyd cyfan, mi es yn llawn swanc i mewn i siop y bwci - am resymau cwbl therapiwtig i chi gael deall - a rhoi bet ar Brasil i ennill.
Dwi'n teimlo'n lot gwell yn barod o fod eisiau i rywun arall ennill.
Oes, mae'n rhaid i mi garu pob cymydog ond dwi ddim am fod yn rhywun arall - boed hwnnw yn gymydog ai peidio.