Bore Gwener Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Yn ogystal 芒'r wledd o gystadlu yr ydym eisoes wedi'i mwynhau yn ystod yr wythnos, heb s么n am yr hyn sydd i ddod eto, rwy'n si诺r fod pawb yn llawenhau hefyd yn y ffaith bod 'na deilyngdod wedi bod ym mhob un o brif seremon茂au'r 糯yl hyd yn hyn!
Chwerw felys
Pnawn ddoe, mae'n si诺r gen i mai rhyw deimlad chwerw felys i deulu'r Hendre oedd gweld Llyr Gwyn Lewis - bardd ifanc soffistigedig a chyffrous yn 么l y beirniaid - yn codi ar ei draed ar ganiad y ffanffer ac yna'n eistedd yn y gadair a gyflwynwyd gan y teulu er cof am 诺r a thad a thad-cu annwyl, Dic Jones.
Mae'r arfer o gynnig cadair yn wobr mewn Eisteddfod yn hen erbyn hyn.
Cadair Caerfyrddin
Mae na s么n bod rhoi cadeiriau yn wobrau i feirdd a cherddorion mewn eisteddfod yn mynd 'n么l cyn belled 芒'r flwyddyn 1176 ac i'r Steddfod a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi.
Ac i ni sy'n byw yng Nghaerfyrddin, daeth i'r golwg yn gymharol ddiweddar, gadair Eisteddfod Caerfyrddin 1819 a grefftiwyd gan y saer coed David Morley o'r dre - y gadair gyntaf a wnaed yn benodol ar gyfer Prifwyl.
Da o beth oedd bod y perchennog yn Rhydychen am i'r gadair fynd yn 么l i'w sir wreiddiol a chytunodd y byddai'n cael ei harddangos yma yn Amgueddfa Sir G芒r.
Mae cadair yn ddarn o ddodrefn o statws ac iddi arwyddoc芒d symbolaidd erioed. Yr hyn a wnawn 芒 chadair yw eistedd ynddi wrth gwrs! Neu, ishte yn achos rhai ohonom! A dyma gysylltu cadair gyda'r gair eisteddfod.
Yr henaduriaid
Yn yr Hen Destament, cyfeirir at y man lle byddai'r Henuriaid yn Llwyodraethu yn fel Eisteddfa'r Henuriaid sef y man lle y byddai'r Henuriaid yn eistedd er mwyn llywodraethu.
Yr enghraifft gynharaf sydd gennym o'r gair eisteddfod yw yn y Llawlyfr Gweddi Cyffredin ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain sy'n dweud am Dduw "Dy eisteddfod Di sydd yn y nefoedd".
Mae William Williams Pantycelyn yn ymbil trwy gyfrwng un o'i emynau ar i Dduw "ennill it eisteddfod (eisteddfa) dawel yn y galon garreg hon".
Pob calon garreg
A dyna chi eisteddfod fydd honno -pan fydd Duw yn llywodraethu ymhob calon garreg.
A'r nef a 诺yr bod angen, ar frys, yr eisteddfod honno i ymweld nid yn unig 芒 phob ardal yng Nghymru ond 芒 phob calon ddynol ledled byd.