Llaw i fyny, bawb sy'n cofio c芒n y Beatles, Eleanor Rigby.
O diar, dyna ddeud rhywbeth am oedran y gwrandawyr! 1966 oedd y flwyddyn y cyfansoddodd Lennon a McCartney eu c芒n enwog am y ferch unig honno.
Dydd Mawrth diwethaf cyhoeddodd y Sefydliad Iechyd Meddwl adroddiad oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod Eleanor Rigby dal yn fyw yng ngwledydd Prydain.
Un o bob deg
Yn 么l yr adroddiad, mae un o bob deg o'r boblogaeth yn teimlo'n unig yn amal. R诺an, ar un adeg byw ar eich pen eich hun oedd y ddelfryd: cafodd miloedd lawer o fflatiau pwrpasol eu codi ar hyd a lled y wlad er mwyn bodloni ysfa pobol am annibyniaeth ond, i lawer, mae'r freuddwyd honno wedi troi'n sur.
Dyma ichi beth arall: mae'n ddigon hawdd heddiw cadw mewn cysylltiad 芒 theulu a ffrindiau ar Facebook, ebost a Skype ond mae un o bob pump ohonom ni'n colli'r cysylltiad personol, wyneb yn wyneb.
Unigedd ac unigrwydd
Dyw unigeddddim yn beth drwg, cofiwch; yn wir, mae'n bwysig inni wneud amser i ni'n hunain, yn rhydd o ofynion pobol eraill. Oherwydd bod yna gymaint o ffyrdd gwahanol o gadw mewn cysylltiad heddiw, mae'n hawdd inni feddwl bod rhaid inni fod yng nghanol pob peth o hyd.
Ond pan fydd unigedd yn troi'n unigrwydd ac yr awn i deimlo'n ynysig mae yna broblem.
Gallwn deimlo'n unig weithiau yng nghanol tyrfa, ac rydan ni i gyd wedi teimlo'n unig iawn ambell dro yng nghanol llond ystafell o bobol yn siarad 芒'i gilydd.
Gosod her
Mae'r adroddiad wedi codi her inni i gyd. Yn un peth, dylai wneud inni werthfawrogi cwmn茂aeth ein ffrindiau'n fwy, a'n perswadio i wneud yr ymdrech i fynd i weld y teulu'n amlach.
Dylai hefyd ein gwneud yn fwy parod i rannu'r peth mwyaf prin sydd gennym, sef ein hamser, fel na fydd neb o'n cwmpas ni yn unig.
Peidiwch 芒 bod yn ddiarth i'ch gilydd!