Rydym yn byw mewn cyfnod peryglus dros ben. Heddiw, nawr, falle y byddwch chi mewn sgwrs fach gyfrinachol gyda chydweithiwr yn y swyddfa ond fe fydd yna feicroffon yna a bydd rhywun dichellgar wedi recordio'ch geiriau chi.
Cyn pen mis fe fydd eich cyfrinachau chi wedi eu cyhoeddi ar dudalen flaen Y Tyst neu'r Goleuad, a dyna hi wedyn ar ben arnoch chi i fynd yn Gadeirydd Undeb Dirwest a Moes Gogledd Ceredigion.
Rwy'n cydymdeimlo'n fawr 芒'r Arglwydd Triesman, a'r Dduges Bengoch yna a ddaliwyd gan feicroffon yn ddiweddar am na chawson nhw bechu'n ddirgel fel y gweddill ohonom ni
Fe glywais sylw ardderchog gan siaradwr yn y Senedd brynhawn ddoe - Peter Lilley rwy'n credu oedd e - pan roddodd e gyngor i Brif weinidogion: Nid cofio switsio'r meicroffon bant sy'n bwysig ond cofio switsio'r ff么n mlaen i wrando.
Gwrando ar anghenion dyfnaf y werin.
Cyngor i wleidyddion oedd gydag e. Ond fe allai fod yn gyngor i bawb ohonom ni.
Pan ges i ff么n symudol am y tro cynta, dim ond ei droi e mlaen fyddwn i pan oeddwn i am gael gafael ar rywun arall ond mi ddes i sylweddoli'n glou y gallai fod yna rywun arall yn ei gyfyngder yn rhywle am gael gafael arna i.
Cadwch y ff么n symudol yna mlaen. Wyddoch chi ddim pryd fydd na rywun, heddiw falle, am gael gafael arnoch chi. A byddwch yn barod i wrando.