91热爆

Newid

Amser yn newid

gan Harri Owain Jones Bore Mawrth Mai 25 2010

Yn rhestr testunau un o eisteddfodau bro Ynys M么n mae cystadleuaeth ffotograffiaeth, sy'n gwahodd cystadleuwyr i gyflwyno, "Dau ffotograff cyferbyniol naill ar gylchoedd neu newid."

Yr wyf yn dehongli 'newid' yn y fan yna fel un darlun o le neu rywun neu rywbeth fel ag yr oedd gynt i'r hyn yw yn awr.

Mae na ffordd arall o'i ddehongli fel yr wyf wedi sylwi arno'n ddiweddar.

Yr un yw sefyllfa y gwledydd hyn yn awr ag oedd cyn yr etholiad ond bod y llywodraeth newydd yn amcanu newid mewn ffyrdd cwbl wahanol i'r llywodraeth o'i blaen.

Ar un llaw yr ydym yn cwyno fod cymaint wedi newid ac ar y llaw arall yr ydym yn rhyfeddu ac yn diolch am y newid er gwell sydd yn helpu i oresgyn afiechydon a rhoi addysg well.

Mae newid mewn nifer o gyfeiriadau eraill hefyd sy'n llesol. Un gri sydd gan lawer o grefyddwyr bellach yw gresynu fel mae pethau wedi newid er gwaeth ac mae'r newid yn parhau i waethygu.

Eto, mae newid llawer gwell mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru hyd yn oed yn y cyfeiriad yna.

Byddai bywyd yn ddiflas iawn pe byddai bawb yn byw yr un fath yr un syniadau, yn meddwl a credu ru'n fath - mae amrywiaeth i ddiolch amdano, ac ymhob agwedd o'r amrywiaeth, mae 'na rhai bethau gwerth sylwi arnynt.

Y dasg mewn crefydd a chyfeiriadau eraill o gymdeithas yw dod 芒'r amrywiaeth at ei gilydd fel bo gweddi Iesu yn cael ei hateb, "Rwy'n gwedd茂o ar iddynt oll fod yn un."

A phe bai yr amrywiol agweddau a syniadau ac arferion yn gweithio gyda'i gilydd fel un, efallai y gwelwn ninnau newid fyddai'n gwella a sefydlogi ein cymunedau a'n cymdeithas heddiw.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.