Mae wedi bod yn wythnos o gyfannu. Y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr wedi cyfannu hen rwygiadau, ac mae edrych ar yr holl luniau o'r ddau arweinydd yn gwneud i rywun feddwl mai Ant a Dec sy'n rhedeg y wlad!
Yn sownd am byth
Y ddau'n sownd wrth ei gilydd am byth.
"Wrth gwrs ein bod ni'n cytuno bod rhaid cael toriadau llym a chodi trethi," medda Nick. "Rydan ni bob amser wedi bod isho diwygio'r holl system o bleidleisio," medda Dave.
Ynni niwclear? Trident? Dim problem.
Beth sy'n gwneud ichi feddwl y bydd yna ddagrau cyn amser gwely tybed?
Ond cofiwch, mae'r gair 'cyfannu' yn cyfleu rhywbeth hyfryd a phwerus iawn. O na allen ni weld elfen o gyfannu rhwng rhai o hen elynion y byd.
Yr Arab a'r Iddew, er enghraifft, neu'r pleidiau eithafol sy'n dal i fygwth y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Terfysgwyr ym Mhacistan.
'Myfi, Tydi, ynghyd
er holl raniadau'r byd -
Efe'n cyfannu'i fyd,
medda Waldo.
A dyna beri inni i gyd edrych yn nes adre a gofyn i ni'n hunain sut y galla i gyfannu a chymodi 芒 rhywun arall?
Hen raniad annheg
Mae hon yn wythnos Cymorth Cristnogol ac mae'n prysur ddod i ben.
Hen raniad annheg yw hwnnw rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Pam fod un rhan o dair ohonon ni'n mwynhau holl gyfoeth y ddaear tra bo'r mwyafrif yn byw mewn tlodi eithafol?
Mae isho rhywbeth mwy na dyhead ac ewyllys da i gyfannu fan hyn.
Rhaid gweithredu ac os na chawsoch chi gyfle eto i gyfrannu tuag at waith Cymorth Cristnogol, mynnwch chwilio am un.
A chofiwch yr Aelodau Seneddol newydd yna - gwnewch yn fawr o bob cyfle i'w lob茂o dros fyd mwy cyfiawn a theg.
Mae i bob ohonon ni ei ran yn y gwaith yma o gyfannu.