Julian o Norwich
Heddiw bydd y Catholigion yn dathlu dydd g诺yl y santes Julian o Norwich, y wraig gyntaf i ysgrifennu llyfr yn Saesneg yn 么l y s么n.
Yn y traddodiad Protestannaidd, dydd Sadwrn diwethaf, Mai 8, yw dyddiad cofio Julian ond waeth pa ddiwrnod yw'r un cywir, y peth pwysig yw ein bod ni yn cofio Julian o Norwich a'i dysgeidiaeth unigryw.
Efallai nad y'ch chi wedi clywed am y wraig gyfriniol hon ond mae'n bur debyg eich bod chi wedi clywed un o'i dywediadau mwyaf cofiadwy, sef,, All will be well and all will be well and all manner of things will be well.
Yn wir, y syniad y bydd popeth yn dda - yn y pen draw - yw un o brif ganllawiau Julian, ac yn wahanol iawn i gredoau'i hoes hi, doedd hi ddim yn credu mai Duw dialgar oedd yn cosbi pobl am bechu oedd Duw, ond yn hytrach, roedd hi'n gweld Duw fel mam gariadus, yn gofalu am ei phlant ac yn aros iddyn nhw aeddfedu a thyfu mewn cariad.
Mae'n adeg o newid mawr arnon ni, a llawer yn pendroni ac yn gofidio am yr hyn sydd o'n blaenau.
Roedd hi'n llawer gwaeth yn adeg Julian, yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg - adeg o gyni economaidd ofnadwy, rhyfeloedd a llawer yn marw oherwydd afiechydon erchyll - ond yn hytrach na mynd gydag ysbryd yr oes, dyma un arall o'r pethau ddywedodd hi:
Chewch chi ddim mo'ch trechu.
Wnaeth Duw ddim dweud na fyddech chi'n cael gofid,
Na fyddech chi'n dioddef beichiau
Na fyddech chi'n gorfod cael pryderon
Ond fe wnaeth Duw ddweud 'chewch chi ddim mo'ch trechu.
Rhoi ei llaw yn llaw Duw wnaeth Julian o Norwich, llaw tadol, ie, ond llaw ei mam hefyd.
Os ydych chi'n gofidio heddiw, os yw'r baich yn drwm, cofiwch am Julian o Norwich, a chofiwch: bydd popeth yn dda, a phopeth yn dda, a phob math o beth yn dda.