Pedwar mis i heddiw - yfory o ran dyddiad - y digwyddodd daeargryn Haiti, pryd y gwelsom ddarluniau erchyll ac arswydus o ddinistr a cholli bywyd na welwyd ei debyg.
Ni chlywir fawr ddim ar y newyddion am Haiti erbyn hyn ond mae ambell i ddarlun yn glynu yn y cof, fel y bachgen bach Kiki yn cael ei dynnu yn fyw wedi ei gladdu am ddyddiau dan y rwbel, a'i fam yn disgwyl amdano.
Gweithio'n galed
Mae'n dda gwybod sut y defnyddir yr arian a gasglwyd gan y gwahanol asiantau, sydd gyda'i gilydd yn gweithio'n galed i helpu.
Mewn cyfweliad fideo, yn ateb cwestiynau, dywed Nigel Timmins 0 Gymorth Cristnogol bod y bobl yn ymdrechu at normalrwydd - siopau a marchnadoedd yn ail agor, ysbytai ac ysgolion ac eglwysi, rhai yn yr awyr agored, eraill mewn pebyll, am fod yr adeiladau wedi'i ddinistrio.
Cychwynnwyd cymdeithasau i bobl ddod at ei gilydd i rannu profiadau, teimladau ac adnoddau. Mae meysydd chwarae wedi eu troi'n foroedd o bebyll sy'n gartrefi i filoedd.
Wedi chwalu
Oherwydd bod teuluoedd wedi eu chwalu yn y gwahanol wersylloedd, y naill a'r llall yn credu eu bod wedi marw, ymdrechir i adfer teuluoedd.
Ail gychwynnwyd amaethu'r tir a swyddi eraill, yn ennyn hyder pobl o bob oed.
Do, casglwyd arian anhygoel at yr ap锚l ond mae angen pob ceiniog gan y bydd hi'n flynyddoedd cyn y gellir adfer cartrefi a bywyd normal.
Mae creithiau galar, a dychryn ac ofn yn aros. Peidiwn a'u anghofio, oherwydd maent angen ein cefnogaeth, a'n gwedd茂au o hyd ar ran y bobl a gweithwyr yr asiantau.
Yn frawd a chwaer
Allwn ni dderbyn, bod pob un yn Haiti yn frawd a chwaer inni, a'n bod yn perthyn i'r un teulu dynol a ni?
Yn wythnos Cymorth Cristnogol cawn gyfle i adnewyddu ein cyfrifoldeb a'n consyrn.
Dywedodd Iesu, "Yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch." Ystyriwn.