O diar, aeth hi'n noson hwyr neithiwr ac ar 么l yr wythnosau o ddadlau a checru, o 'spin' a 'gaffes', a'r teithio ffrantig ar hyd a lled y wlad, daeth diwedd ar y cyffro i gyd.
Harold Wilson a ddywedodd bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth ond yn wir mae'r mis diwethaf yma wedi bod fel tragwyddoldeb!
Rhoesom ochenaid o ryddhad bore ddoe wrth glywed na fyddai dim s么n am yr etholiad!
Er bod y llosgfynydd yng Ngwlad yr I芒'n dal i chwydu ei ludw i'r awyr, o leia' mae'r aer poeth sydd wedi bod o'n cwmpas ni wedi diflannu. Onid yw'n rhyfedd fel y mae miliynau o eiriau a dadleuon yn gallu diflannu dros nos, a dim s么n amdanyn nhw mwyach?
Troi'r geiriau'n weithredoedd, gwireddu'r addewidion - dyna'r gamp heddiw. Bu llawer o s么n am gyfle teg i bawb. Bydd yr wythnos nesa'n Wythnos Cymorth Cristnogol. Beth gaiff y flaenoriaeth yn awr, tybed? Y Trydydd Byd ynteu Trident?
Gyda hyn bydd yn Gwpan y Byd i'r p锚l-droedwyr. Bu llawer o weiddi am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Aeth John Humphrys ar hyd strydoedd Caerdydd, ei ddinas enedigol, yn hwyr un nos Wener yng nghwmni'r Heddlu, a bu bron iddo gael ffit!
Ond pwy sydd am herio'r archfarchnadoedd wrth iddyn nhw werthu cwrw am lai na hanner can ceiniog y peint?
Yn sydyn iawn, rydan ni i fod i anghofio bod a wnelo goryfed alcohol rywbeth ag ymddygiad gwael.
O ia, a thaclo'r bancwyr barus yna yn y Ddinas wrth i bawb arall wynebu toriadau? Yeah, right. Cawn ni weld.
Dyna'r broblem: troi geiriau'n weithredoedd. Mae un weithred yn werth mil o eiriau, a dyna'r gamp inni i gyd:
'Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy', meddai Iesu Grist. Nid ffurfio plaid nac ysgrifennu llyfr a wnaeth Ef ond dewis disgyblion a'u hanfon allan i weithredu.
A phan fyddwn ni'n baglu ac yn methu, mae ganddo faddeuant a chymorth ar ein cyfer.