Dameg cawg yr ardd
Stori fach sydd gen i ar eich cyfer chi y bore ma. Un tro, amser maith yn 么l, gadawodd hen 诺r ddarn o dir yn ei ewyllys ar gyfer y gymuned.
Daeth y trigolion at ei gilydd i drafod sut i wneud y gorau o'r llain a'r penderfyniad oedd creu gardd, llecyn tawel a chysgodol lle gallai pawb rannu yn y ffrwythau a mwynhau c芒n yr adar.
Er mwyn talu am y gwaith angenrheidiol a rhannu'r baich yn gyfartal, cynigiwyd y gallai pawb yn y pentref gyfrannu un darn arian ar gyfer y cynllun.
Teg 芒 phawb
Doedd hyn ddim yn ormod o dreth ar neb, a byddai'n golygu fod gan bawb yr un hawl ar yr ardd ar ddiwedd y cynllun. Cytunodd y trigolion fod hwn yn syniad penigamp a gosodwyd llestr pridd ynghanol y pentref er mwyn i bawb ddodi'i gyfran yn y potyn.
Doedd un o'r trigolion - fe alwn ni fe'n Si么n - ddim yn arbennig o gyfoethog, er nad oedd e'n ddyn tlawd chwaith; a meddyliodd wrtho'i hun, "Mae 'na lawer y gallwn i ei wneud i mi fy hun gydag un darn arian. Rwy'n si诺r na fydd llawer o ots os na chyfranna i fy si芒r - bydd digon o rai eraill wedi gwneud, a phwy a 诺yr, falle bydd ambell un wedi rhoi mwy na'i si芒r."
Ond doedd Si么n ddim eisiau i neb wybod nad oedd e wedi cyfrannu, felly penderfynodd roi carreg fach yn y llestr pridd yn lle'r darn arian. "Sylwith neb ar un garreg fach ynghanol yr holl arian yna," meddyliodd wrth glywed y garreg yn glanio 'plop' yng ngwaelod y cawg.
Y diwrnod mawr
Ac ymhen hir a hwyr daeth y diwrnod mawr - roedd y llestr pridd yn rhy drwm i'w godi. Casglodd y trigolion ynghanol y pentref a rhoddwyd morthwyl yn llaw'r dinesydd hynaf i chwalu'r llestr a rhyddhau'r arian.
A chyda thonc, holltodd y cawg a llifodd allan ohono . . . ie, rhaeadr o gerrig bach!
Tybed faint ohonom ni sy'n tybio fod rhywun arall yn mynd i gymryd y cyfrifoldeb, rhywun arall yn mynd i ofalu, cyfrannu, rhoi ysgwydd dan y baich?
Os yw pawb yn disgwyl i rywun arall ysgwyddo'r baich, mae perygl gwirioneddol mai cae o gerrig, yn hytrach na gardd, fydd y canlyniad.
Dim ond stori fach. Ond mae hi'n wythnos Cymorth Cristnogol wythnos nesa ...