91热爆

Maniffesto Iesu o Nasareth

Elfed ap Nefydd Roberts

gan Elfed ap Nefydd Roberts
Bore Mawrth, Ebrill 13 2010

Yn ystod Etholiad 1996 yn America pan etholwyd Bill Clinton yn arlywydd rhoddodd Clinton y pwyslais bron i gyd ar adfer yr economi.

Taclo'r argyfwng economaidd oedd amod pob gwelliant ac allan o'r ymgyrch honno fe ddaeth y slogan, "It's the economy, stupid!"

Byddai'r un slogan yn gweddu i'r dim i'r ymgyrch etholiadol yn y wlad hon. Mae'r prif bleidiau i gyd yn gwneud eu gorau glas i'n hargyhoeddi ni mai ganddyn nhw mae'r polis茂au economaidd gorau.

Tydyn nhw ddim am godi treth incwm, na threth ar werth. Ac mae pob plaid yn hawlio y bydde ni'n waeth allan pe bai'r pleidiau eraill yn cael eu ffordd - bydde nhw'n mynd yn ddwfn i'n pocedi ni ac yn ein gwneud ni i gyd yn dlotach o lawer.

Fasa chi'n meddwl o wrando ar y traethu a'r dadlau mai arian ydi'r peth pwysicaf yn y byd y gyd: It's the economy, stupid!

Pethau pwysicach

Ond fe wyddom ni'n iawn fod yna bethau pwysicach o lawer mewn bywyd nag arian. Byddai'r trueiniaid laddwyd yn y ddamwain awyren yn Rwsia wedi bod yn barod, tae nhw wedi cael y cyfle, i gyfnewid eu ceiniogau olaf am gael byw.

Mae bywyd yn bwysicach na buddsoddiadau. Mae iechyd yn fwy gwerthfawr nag arian ac aur.
Mae cariad a thosturi a chyfeillgarwch yn werth mwy na bonwsus a phres mewn banc.

Pe bai Iesu o Nasareth yn ymgeisydd seneddol dyma fyddai ar ei faniffesto o:

  • Peidiwch 芒 chasglu i chwi drysorau ar y ddaear; casglwch drysorau yn y nef.
  • Gwerthwch yr hyn oll sydd gennych a rhowch i'r tlodion.
  • Nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.

Nid y byddai Iesu'n disgwyl inni fyw mewn tlodi ond y byddai am inni geisio'r gwir werthoedd a byw ar eu pwys nhw.

Fyddai'r maniffesto yna yn ennill eich pleidlais chi tybed?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.