gan Anna Jane Evans
Bore Gwener, Ebrill 9 2010
Darn o dir tua'r un maint a Phen Ll欧n ydi Gasa - a thua miliwn a hanner o bobl yn byw yno.
Ers y rhyfel yno y llynedd mae'r lle wedi bod dan warchae llym a dim ond 114 math o nwyddau sy'n cael eu caniat谩u dros y ffin gan Lywodraeth Israel.
Mae hynny'n golygu fod ysgolion a chartrefi, ysbytai a swyddfeydd yn dal yn deilchion ar 么l y rhyfel gan nad oes offer adeiladu'n cael mynd i mewn.
Dillad wedi cyrraedd
Darllenais adroddiad ddoe'n dathlu fod deg container o ddillad wedi cyrraedd pen eu taith - y tro cyntaf i ddillad gael croesi'r ffin ers tair blynedd.
Roedd Gaza'n 么l yn y newyddion am ddiwrnod yr wythnos diwethaf - cyn diflannu eto o'n sylw.
Tri ar ddeg o ymosodiadau o'r awyr gan fyddin Israel yn ystod y nos, medda nhw - o leiaf tri o blant wedi cael eu hanafu.
Ymateb i rocedi a daniwyd o Gasa oedd yr ymosodiadau meddai Israel - ac roeddent wedi gollwng taflenni ymlaen llaw i rybuddio'r bobl amdanynt.
Rhyfel oer
Dachi'n cofio'r taflenni gawson ni gan y Llywodraeth flynyddoedd yn 么l, ynghanol y rhyfel oer?
Cyngor ar sut i gadw'n ddiogel mewn ymosodiad niwclear. Taflenni lliwgar efo lluniau ac anogaeth i gael sachau tywod a digon o fwyd yn y t欧 i'n cynnal am rai wythnosau.
Canodd Dafydd Iwan yn ddychanol am y cyfarwyddyd i "fyw dan fwrdd y gegin gyda brechdan bach o gaws i ddisgwyl am yr alwad olaf un" a daeth geiriau'r g芒n yn 么l i'm meddwl wrth geisio dychmygu'r taflenni ollyngwyd yn Gasa.
Dianc i le?
Pa gyfarwyddyd oedd arnynt? I lle'r oedd pobl i fod i fynd i fod yn ddiogel, tybed?
Arf peryglus ydi ofn medda ffrind i mi o Israel. Pan fo bobl yn ddigon ofnus, maent yn stopio meddwl ac mae hynny'n rhoi penrhyddid i arweinwyr a llywodraethau wneud be fynnan nhw.
Ydi hwnna'n rhybudd amserol i ni ar drothwy etholiad, tybed?