91热爆

Gwisgo'r Groes

Shirley Chaplin

gan Geraint Morse
Bore Iau Ebrill 8 2010

Mae enw Shirley Chaplin wedi ailymddangos yn y wasg yn ddiweddar. Hi oedd y wraig a gollodd ei gwaith oherwydd iddi wrthod cuddio'i chroeslun wrth weithio fel nyrs i Ymddiriedolaeth Iechyd Royal Devon and Exeter.

Bu raid iddi symud o'i gwaith yn gweithio wyneb yn wyneb 芒 chleifion i weithio y tu 么l i ddesg. Er iddi apelio i'r tribiwnlys gwaith yn erbyn y penderfyniad hwn, collodd yr ap锚l deuddydd yn 么l.

'Yn annheg'

Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd Mrs Chaplin bod y sefyllfa'n annheg. Roedd, gan Fwslemiaid yr hawl i wisgo sgarffiau fel arwyddion cyhoeddus o'u ffydd ond doedd dim hawl ganddi hi fel Cristion i wisgo croeslun.

Dadl syml oedd un yr Ymddiriedolaeth Iechyd. Roedd gwisgo'r groes yn berygl i iechyd a diogelwch claf a gweithiwr - ond, yn 么l Shirley Chaplin, byddai tynnu'r croeslun yn frad i'w ffydd yn Iesu Grist.

Roedd wedi derbyn y croeslun fel rhodd yn 1971 ac wedi ei wisgo bob dydd am ddeugain mlynedd, tri deg ohonynt yn nyrs.

Ei hatgoffa

Roedd gwisgo'r groes yn ei hatgoffa hi o'r ffaith bod Iesu wedi marw dros ei phechodau ac roedd yn ymgais ganddi i godi'r groes yn ddyddiol a dilyn Iesu.

Yn ogystal, roedd gwisgo'r groes yn gyhoeddus, yn hytrach nac yn guddiedig, yn atgof iddi o'i chyfrifoldeb i ymddwyn fel Cristion ym mhob sefyllfa.

Wythnos yn 么l, ymddangosodd llythyr yn y Telegraph gan chwe esgob a'r Arglwydd George Carey, cyn Archesgob Caergaint, yn tynnu sylw at achos Mrs Chaplin.

'Mwy na gemwaith'

Dywedodd yr esgobion bod ei hachos yn dangos bod hawliau crefyddol y Gymuned Gristnogol yn cael eu amharchu a bod nifer o Gristnogion wedi colli eu swyddi am resymau anfoddhaol mewn gwlad w芒r.

Mae'r croeslun neu'r groes yn fwy na darn o emwaith ar gadwyn. I'r rhai sy'n credu, mae'n arwydd o ffydd fyw a pherthynas real ag Iesu.

Rhaid dangos nad oes cywilydd arnom o groes Iesu Grist a sefyll dros ein hawliau i arddangos y groes yn gyhoeddus, gan gynnwys y gweithle.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.