Henaint fase'r rhai sy'n fy nabod i'n ei alw fo ond gwell gen i y geirie cofio'n 么l ac mae'n debyg y base dilynwyr Doctor Who yn ei alw'n ystumdro amser - dene yn 么l y geiriadur di'r Gymraeg am time warp.
Mewn cyfres o'r rheini y ces i fy hun yn Steddfod yr Urdd yn Y Bala ddydd Sadwrn dwetha.
Syr Ifan
Cael fy hun i ddechre yn yr un steddfod bymtheg mlynedd ar hugien yn 么l pan oedd fy mhlant i, sy'n fame eu hunen ers blynyddoedd, yn cystadlu.
Cael y teimlad nad oedd dim wedi newid, yr un bwrlwm a symud ac ymdrechu, yr un casglu part茂on at ei gilydd yr un rhuthro allan ar ddiwedd cystadleuaeth, yr un cytuno ac anghytuno efo barn y beirniaid.
A'r cyfan yn brofiad gwych.
Cael fy hun wedyn yn gwrando ar Syr Ifan, sylfaenydd yr Urdd flynyddoedd ynghynt, yn esbonio sut roedd o'n dewis arweinydd neu bennaeth i'r gwersyllwyr yn Llangrannog.
"Mi fydda i," medde fo, "ymhlith pethe erill, yn edrych be maen nhw'n ei ddarllen."
Michael Foot
A dyna ystumdro amser arall yn digwydd a finne'n neidio'r blynyddoedd at Michael Foot fu farw'n ddiweddar, a chofio iddo fo ddeud peth fel hyn am ddarllen:
"Does gan y rhai y mae ganddyn nhw b诺er gwleidyddol ddim amser i ddarllen, a does gan y rhai sy ddim yn darllen ddim p诺er."
Oedd o'n deud y gwir? Wel maen nhw yn deud bod eich corff chi yr hyn yr ydech chi'n ei fwyta ac yn yr un ffordd fod eich meddwl chi yr hyn yr ydech chi'n ei ddarllen.
A be mae darllen yn ei neud i'n meddwl ni? Wel, ein helpu i ddod i adnabod ein hunen yn well, i adnabod y byd o'n cwmpas, ac i adnabod pobol erill.
Ac o adnabod, deall, ac o ddeall dangos mwy o gydymdeimlad at ein gilydd. Darllen pethe o safon wrth gwrs.
Y gair pwysig
Yn 么l i'r eisteddfod yn Y Bala a'r gair pwysig yno oedd safon.
Safon uchel medde'r beirniaid, pawb yn ymdrechu i gael safon ac i wella safon.
Pawb yn derbyn mewn cystadlu mai hynny sy'n bwysig - ond soniwch am safon yr hyn dech chi'n ei ddarllen ac mi gewch eich galw'n snob.
Gwell darllen unrhywbeth na dim byd - dene sy'n cael ei ddeud gan lawer ond dwi'n ame hynny'n fawr.
I aralleirio rhigwm dwi ddim yn ei gofio'n iawn:
Os sbwriel rowch chi yn y sach
Sbwriel ddaw allan bobol bach.