Cwestiwn ichi y bore ma. Be di'r peth cynta ma gwleidydd yn ei neud ar 么l ennill etholiad?
Yr ateb cyn y diwedd. Yn gyntaf, yr hyn sy di gneud imi feddwl am wleidyddion ydi'r ffaith bod arweinwyr y pleidie Prydeinig yn sydyn iawn fasech chi'n meddwl wedi sylweddoli gwerth eu gwragedd mewn unrhyw ymgyrch etholiadol ac am eu trotion fel cesig sioe o gwmpas y lle am yr wythnose nesa.
A'n gwaredo.
Gwraig gweinidog
Wrth gwrs mae rhai ohonon ni wedi sylweddoli gwerth gwragedd ers amser maith a dwi ddim yn s么n am fywyde personol ond eu gwerth mewn cymdeithas.
A nunlle yn fwy felly nag yn ein capeli a'n heglwysi. Mae hyn yn bod mewn rhyw ffordd ryfedd erioed.
Pan oedd digon o weinidogion i'w cael yr un tebyca i gael ei ddewis oedd yr un efo gwraig ddefnyddiol ac mewn pwyllgore mi gaech sylwade fel, "Mi glywes fod i wraig o'n un dda," neu "Di i wraig o byth yn twyllu capel" neu "Mae hi'n smocio cofiwch" - neu'r frawddeg gwbwl gondemniol a phen agored honno, "Mi glywes nad ydi i wraig o'n llawer o beth."
Mae rhai carfane o'r eglwys yn dal i gredu nad ydi gwragedd yn llawer o bethe ac yn gwahardd iddyn nhw fod yn offeiriaid ac esgobion.
Wedi cymryd bod geirie Paul,"Tawed y gwragedd yn yr eglwysi," yn air Duw maen nhw amwni.
Dynion yn brin
Ond o ddifri, lle bydde'n heglwysi ni - a'n cymdeithase erill ni heddiw oni bai am y merched?
Prin ydi'r dynion ym mhob cymdeithas bellach, yr hen egsus oedd eu bod nhw'n gweithio 芒'r gwragedd adre.
Dydi hynny ddim yn wir heddiw. Mae'r merched sy'n selog mewn capel a chymdeithas yn debygol iawn o fod yn fame sy hefyd yn gweithio'n llawn amser os ydyn nhw o fewn yr oed hwnnw.
Yn nes ati
Mae pedwar o bob pump o'r rhai sy'n mynychu ein capel ni yng Nghefnddwysarn yn ferched a rhyw gyfartaledd tebyg sy ym mhobman, mewn eglwys, clwb a chymdeithas.
Tawed y gwragedd yn yr eglwysi wir. Mae'r gwleidyddion sy am ddefnyddio'u gwragedd i ymladd yr etholiad dipyn yn nes ati yn y diwedd falle na Paul.
O ie. Y cwestiwn, 'Be di'r peth cynta mae gwleidydd yn ei neud ar 么l ennill etholiad?'
Wel dechre ymladd yr etholiad nesa si诺r iawn.