Fel un a dreuliodd gymaint o flynyddoedd yn gaplan i'r Llynges Frenhinol byddaf yn cadw clust agored bob amser i'r hyn sy'n digwydd yn ein Lluoedd Arfog.
Bu cyfnod yn hanes ein gwlad pan oedd y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn cael profiad o weithredu o fewn y Lluoedd ond, erbyn hyn, dim ond canran fechan o'r gymdeithas gyfoes sydd wedi blasu y ffordd unigryw o fyw dan orchymyn y Goron.
Mor anodd
Cofiaf, pan ymddeolais o'r Llynges, pa mor anodd wrth ddod yn 么l i Gymru fach oedd darganfod eraill a phrofiad cyffelyb - digon o leiaf i mi allu cynnal sgwrs am y sefyllfaoedd y bu i mi eu hwynebu.
Os oeddwn yn ddigon ff么l a dechrau siarad am rai o'm hanesion buan iawn y byddai rhai yn edrych at y nenfwd a dweud fy mod i wedi mynd i forio!
Methu s么n
Wrth groesawu y sylw mae'r cyfryngau yn ei roi i rai o Gymru sydd yn ein Lluoedd yn Afghanistan ar hyn o bryd ymdeimlaf yn gryf 芒 rhai fydd yn dod adref rywbryd a methu sgwrsio am eu profiadau am fod llawer yn ein cymdeithas yn methu 芒 dychmygu y math o fyd 芒 wynebwyd ganddynt.
Cydymdeimlwn yn fawr iawn gyda'r teuluoedd sydd wedi colli rhai annwyl. Cofiwn hefyd am y rhai sydd wedi eu hanafu ac yn brwydro am eu hiechyd.
Pwysig i mi yw cofio am y rhai nad yw eu hanafiadau yn weladwy - ond eu meddyliau yn ddyddiol yn ail fyw yr hunllefau a brofwyd yn y byd go iawn.
Siarad yn agored
I rai felly mae profiad y blynyddoedd yn dysgu mai'r driniaeth orau yw gallu siarad yn agored am bob peth a ddaeth i'w rhan er mwyn herio'r ofnau a rhyddhau'r atgofion ac felly ailwynebu bywyd yn obeithiol ac yn hyderus.
Mae rhai angen triniaeth arbenigol - sydd llawer rhy brin yn ein gwlad - tra bo eraill yn syml angen rhywun all wrando a'u galluogi.
Efallai mai dyna'r frwydr fwyaf - gwneud amser i wrando ar ein gilydd!