91热爆

Sbwriel

Sbwriel

gan Lona Roberts
Bore Gwener Mawrth 5, 2010

Dyn a'i flerwch

Wel te... sawl pecyn crisps gwag gasgloch chi o fla'n eich t欧 chi yr wythnos hon? Dau? Chwech? Allwch chi mo'u cyfrif?

Mae rhyw ddihiryn yn gadael bag yn cynnwys baw ei gi yn ein perth ni ambell dro! Rwy'n cael rhywfaint o gysur o'r ffaith ei fod e mewn bag! Ac yn ddiolchgar iddo fe neu hi am hynny.

Mae sbwriel yn ein cynhyrfu ni yn fwy na dim, yn 么l y s么n. Os digwydd i chi fyw ar hewl fawr mae e'n cael ei daflu o'r ceir, yn offrwm fel petai, pacedi sigar茅ts a bisgedi gwag, poteli d诺r, y plastig sy'n dal brechdanau, caniau a gweddillion bwyd parod.

Clywais i am artist sy'n casglu stwff fel hyn ar lan y m么r ac yn gwneud collage o'i chasgliad ........ heb y chips a'r cyrri gobeithio.

Robin Jones

Wrth dalu ei deyrnged i Robin Jones yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, soniodd ficer Radur am deyrngarwch Robin i'r ardal honno gan ei ganmol am fod mor barod ei gymwynasau, hyd yn oed yn casglu sbwriel yn y pentre!

Bu neb llai na Jeremy Paxman yn bwrw iddi ar y pwnc yma yn ddiweddar gan s么n am fudiad o'r enw Litter Heroes sydd wedi dilyn trywydd a tharddle'r stwff a welwn o gwmpas y lle.

Fyddwch chi ddim yn synnu clywed mai caniau Coca-Cola sy'n dod i'r brig, wedyn Creision Walkers a wedyn stwff McDonald's.

Yn 么l Paxman, mae'n hardaloedd ni yn boddi dan y sbwriel yma a hwnnw'n stwff na fydd yn pydru ond yn para am genedlaethau, yn dystiolaeth i wyrion ein plant ni sut bobol oedd eu cyn dadau a mamau.

Hynny yw y Ni.

Ein beirniadu

Anodd credu y byddwn yn cael ein beirniadu'n hallt a'n condemnio ar sail ychydig o sbwriel a ninnau'n tybio ein bod mor w芒r a chymwynasgar. Ond mae'r dystiolaeth yn casglu yn ein herbyn ni.

Hen gwestiwn oesol yw, Beth yw dyn?
Ar sail y mynydd sbwriel o'n cwmpas, cynigiwch chi ateb.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.