Pryderon yn y cefndir
Mae 'na ambell i beth yn y cefndir sydd yn effeithio ar y llun i gyd.
Os byddwch weithiau yn symud o wrando ar y radio i edrych ar fwletinau newyddion teledu 91热爆 Cymru fe welwch adeilad hanesyddol y Pier Head ym Mae Caerdydd.
Hwn oedd hen bencadlys cwmni Bute Dock a gafodd ei godi yn 1897 o frics coch Rhiwabon ger Wrecsam a chaiff ei ystyried yn adeilad eiconaidd.
Mae wedi ailagor ar ei newydd wedd fel atyniad i ymwelwyr ac yn cael ei ddefnyddio i gynnal arddangosfeydd a chadw eitemau o bwysigrwydd hanesyddol.
Llai o arian
Yn anffodus mae 'na bryderon yng nghefndir unrhyw olwg ar y dyfodol yma yng Nghymru oherwydd bod cyllideb Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-2011 wedi gostwng i 拢15.7 biliwn - 拢400 miliwn yn llai na'r disgwyl.
Ym mis Ionawr roedd arolwg gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn awgrymu y gallai hyd at 4,000 o swyddi gael eu colli o fewn awdurdodau lleol Cymru dros y blynyddoedd nesaf.
Cymunedau gwledig
Ar ben hyn mae aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad sy'n codi pryderon am ddyfodol tymor hir cymunedau gwledig Cymru gan nodi nad oes 'na gymhellion i bobl ifanc i aros o fewn y cymunedau yma na chwaith i rai ifanc symud i mewn.
Dywedir bod yr adroddiad wedi cael ei drafod gan y cabinet a bod blaenoriaethau wedi eu nodi, gan gynnwys darpariaeth drafnidiaeth a band llydan.
Fy mhryder i
Pryderu am yr holl bryderon fydda i!
Pa fath o fywyd sydd i bobl ein gwlad os yw negyddiaeth ac ofn yn deillio o'n newyddion dyddiol yn llenwi cymaint ar gefndir ein bywyd?
Fel hen adeilad y Bute Dock efallai ei bod yn amser i ninnau gael gwedd newydd a symud o bryder i obaith, o goch ein cyllid i wyrddni'r gwanwyn yn ein tir.
A phwy a 诺yr na ddaw eto haul ar fryn?