91热爆

Zaytoun

Arwyddlun

gan Branwen Niclas
Bore Gwener, Chwefror 26, 2010

Mae hi'n bythefnos masnach deg ar hyn o bryd, a'r adeg yma bob blwyddyn gwahoddir amrywiol gynhyrchwyr i wledydd Prydain i drafod eu cynnyrch a chymryd rhan mewn gweithgareddau - ymweld ag ysgolion, annerch capeli a grwpiau cymunedol.

Gwahodd tri ffermwr

Eleni gwahoddwyd tri o ffermwyr olewydd o Balesteina draw.

Maent yn rhan o Zaytoun, ymdrech gymunedol ym Mhalesteina i gynhyrchu olew olewydd masnach deg. O'r Arabeg daw'r gair Zaytoun, sy'n golygu "olewydd".

Mae olewydd yn tyfu ar 80% o diroedd drwy ddulliau ffermio traddodiadol, a'r rhan fwyaf yn organig.

Gall cynhyrchu olew olewydd olygu cymaint 芒 hanner incwm blynyddol ffermwyr Palesteinaidd, sy'n gyfraniad economaidd mawr pan ystyrir bod tri chwarter y Palesteiniad yn byw islaw llinell dlodi'r Cenhedloedd Unedig.

Dathliadau

Wedi iZaytoun gael ei drwyddedu'n swyddogol yn gynnyrch masnach deg fe'i lansiwyd mewn digwyddiad mawr yn Llundain, wedi ei gefnogi gan DFID, yn ystod Pythefnos Masnach Deg y llynedd.

Teithiodd cynrychiolwyr o Balesteina draw ar gyfer y dathliadau.

A ddydd Llun nesaf roedd rhai o'r cynhyrchwyr i fod i gymryd rhan mewn digwyddiad G诺yl Dewi yn Aberteifi a dydd Mawrth roeddent i fod i siarad yng Nghaerdydd - ond yr wythnos hon gwrthodwyd visas ar gyfer y tri ffermwr.

Flwyddyn yn 么l 'roedd Gordon Brown yn canmol Zaytoun i'r cymylau a Tony Blair yn honni fis Tachwedd diwethaf, ar daith i Jenin, fod y diwydiant olew olewydd masnach deg ym Mhalesteina yn 'ysbrydoliaeth' iddo.

Angori i'r tir

Pam felly amddifadu visas ar gyfer y cynhyrchwyr eleni tybed?

"Mae'r Zaytoun, yr olewydd, yn golygu popeth i ni," meddai un o'r ffermwyr. "Mae'r coed olewydd yn ein gwreiddio ni a'n hangori ni yn ein tir.

"Yn rhoi syniad o berthyn, cartref a gobaith inni. Mae buddsoddi mewn olew olewydd yn fuddsoddiad yn ein dyfodol."

Gresyn na chafodd y ffermwyr gyfle i ddweud mwy o'u hanes, a gresyn na chafodd y cyhoedd yma gyfle i wrando arnyn nhw.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.