Dau lun
Mae yna ddau lun go arbennig yn fy swyddfa i. Daeth un yn 么l i'w lawn ogoniant brynhawn Sadwrn diwethaf - llun wedi ei arwyddo rhif 32 allan o 250 o Shane Williams yn dathlu'r Gamp Lawn yn 2008.
Y mae'r llall yn llun bach personol gymerais i o fachgen bach du ei groen yn gwisgo crys rygbi y Springboks yn Cape Town De Affrica ar achlysur ymweliad y t卯m 芒'r ddinas wedi iddyn nhw ennill Cwpan y Byd yn 2007.
Roedd hynny cyn i John Carlin ysgrifennu ei lyfr grymus Playing the Enemy yn trafod perthynas Nelson Mandela a Fran莽ois Pienaar yn 1995, a chyn i Clint Eastwood droi hanes y ddau yn ffilm gwirioneddol werth ei gweld, Invictus.
Y mae'r llun hwn yn golygu mwy i mi na'r llun o Shane Williams yn dathlu.
Anarferol
Erbyn 2007, nid peth anarferol oedd i fachgen bach du ei groen wisgo crys y Springbok. Nid felly'r oedd hi yn 1995 pryd yr aeth Pienaar i geisio ennill Cwpan Rygbi'r Byd gyda'r Arlywydd newydd du ei groen, Nelson Mandela, yn meiddio herio ei bobl ei hun drwy wisgo crys gwyrdd ac aur y Springbok.
Mewn munud anarferol y prynhawn Mehefin hwnnw yn 1995, daeth cenedl fregus yn un.
Ar achlysur dathlu ugain mlynedd gyfan ers rhyddhau Nelson Mandela cefais fy hun mewn lle arbennig yng nghwmni pedwar person ifanc arbennig iawn yng Nghymru.
Gofynnwyd i mi ddweud rhywbeth am hiliaeth ar raglan Mosgito S4C ond dysgais i lawer mwy wrth wrando ar Gymro gwyn ei groen a Chymro du ei groen o'r Bala yn sgwrsio am brynhawn cyfan gyda dwy Gymraes o Gaerdydd yn gwisgo hijab ac yn arddel eu crefydd Mwslemaidd yn agored.
Fe welais yr hyn a wnaethom ni fel Cymry cyfoes drwy gyfrwng rhagorol ein haddysg Gymraeg. Nid trafod, hijab, hil na chrefydd wnaeth y Cymry ifanc hyn ond prysuro i drafod hyd y ciw cinio yn eu hysgolion.
Troi'n arferol
Fe drodd yr anarferol yn arferol. O gofio brwydron mawr arloeswyr cynnar addysg Gymraeg, a diolch amdanyn nhw, fe wnes i gofio geiriau y gerdd Invictus gan William Ernest Henley a gynhaliodd Nelson Mandela drwy saith mlynedd ar hugain mewn carchar:
It matters not how strait the gate,
How charged with punishments the scroll.
I am the master of my fate:
I am the captain of my soul.