Clywsom yn ystod y dyddiau diwethaf hyn bod arddangosfa o luniau Cymry enwog y gorffennol a'r presennol wedi agor yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.
Gwena! - Portreadau o'r Cymry yw'r arddangosfa yn Oriel Gregynog ac mae'n cynnwys rhai o'r ugain mil o luniau yng nghasgliad y llyfrgell.
Mae'n cynnwys portreadau o Gymry enwog o bob cefndir ac yn gyfle i weld llun o'r bocsiwr Joe Calzaghe a llun o Christmas Evans, y pregethwr Anghydffurfiol o bosib yn brwydro am le ar y wal!
Neu beth am y gantores Mary Hopkin a David Lloyd George, yr actor Griff Rhys Jones yng nghwmni Aneurin Bevan, Gwynfor Evans a Neil Kinnock?
Cyfle unigryw i weld rhai o wynebau eiconig ac enwocaf Cymru.
Yn ffasiwn i beidio gwenu
Oa mai Gwena! ydi enw'r Arddangosfa rwy'n amau'n fawr os oes na w锚n ar bob wyneb ym mhob llun! Doedd hi ddim yn ffasiwn i wenu wrth gael tynnu eich llun 'slawer dydd!
Ac fe wn innau yn iawn am rai sy'n cael trafferth i wenu heddi.
Go brin bod llawer yn gwenu yn yr Alban heddi ar 么l diweddglo dramatig y g锚m b'nawn Sadwrn! Ond mae na rai sy'n ei chael hi'n anodd i wenu am resymau gwahanol - beichiau bywyd yn pwyso'n drwm arnynt a'r w锚n wedi diflannu o'u hwyneb.
Gwn hefyd am eraill sy'n gwisgo gw锚n a honno'n w锚n ddewr iawn oherwydd fy mod yn gwybod bod y w锚n ar yr wyneb yn cuddio'r dagrau yn y galon.
Ond fe wn yn iawn am eraill nad ydynt yn gwisgo gw锚n achos bod yn gwell ganddynt edrych yn ddiflas!
Fawr o ymdrech
Dyw hi ddim yn cymryd lot o ymdrech i wenu. Mae debyg ein bod yn defnyddio llawer iawn mwy o gyhyrau yn ein hwyneb i dynnu wyneb trist, pwdlyd, nag i wisgo gw锚n!
Mae pawb yn gwenu yn yr un iaith hefyd cofiwch. Felly, wrth baratoi ar gyfer y diwrnod newydd hwn, beth am wisgo gw锚n? Efallai ... efallai .. y bydd y w锚n honno, o'i gweld ar ein hwyneb ... yn ddigon i godi calon rhywun arall. Pwy a 诺yr?