Ugain mlynedd i heddiw cerddodd Nelson Mandela, law yn llaw 芒 Winnie, ei wraig, o garchar Victor Vestor i ryddid, i Dde'r Affrig lle nad oedd apartheid bellach yn teyrnasu, ac i wladwriaeth lle byddai'r du a'r gwyn yn medru byw gyda'i gilydd, yn frodyr a chwiorydd, a phawb yn gydradd.
Hanes anhygoel yw hanes Mandela.
Y gwleidydd ANC ifanc rhyfelgar, ac yna'r carchariad mewn cell ar Ynys Robben am 26 blwyddyn.
Parch ac edmygedd
Enillodd barch ac edmygedd miloedd, os nad miliynau, ar draws y byd a bum innau, fel myfyriwr, mewn sawl gwylnos brotest tu allan i Lysgenhadaeth De'r Affrig yn Sgw芒r Trafalgar yn ymbil am ei ryddhad.
Ar 么l ei ryddhau, beth wnaeth Mandela?
Dial?
Talu'r pwyth yn 么l?
Go brin i hynny groesi ei feddwl. Aeth ati i gymodi, i adeiladu ymdeimlad o berthyn, o gydweithio. Yn ei lyfr Long Walk to Freedom cyfaddefa Mandela nad oedd dulliau gweithredu'r ANC bob amser yn dderbyniol na chyfiawn. Derbynia hefyd fod yna feiau wedi bod ar y ddwy ochr.
Safiad gwleidydd arall
Mewn pregeth gan fy ngweinidog dros y Sul fe'm hatgoffwyd am wleidydd arall fu'n gwneud safiad yr wythnosau diwethaf yma.
Cred Tony Blair, heb y mymryn lleiaf o amheuaeth, mai ymosod ar Irac oedd raid. Yn gwbl ddigyfaddawd, gyda'r pendantrwydd mwyaf, rhaid, yn 么l Mr Blair, oedd talu'r pwyth yn 么l - Medi'r unfed asr ddeg, y bomio brawychus ar draws y byd, Saddam Hussein.
Nid adeg i gymodi, ac i gyd-ddealltwriaeth oedd hi ond amser i ddangos cryfder a gallu milwrol - amser i oresgyn.
Gochelwch! Dyna oedd neges Tony Blair. Nid yn unig 'roedd Rhyfel Irac yn gyfiawn ond rhaid yw nawr paratoi ar frys i oroesi'r gelyn nesaf - Iran.
Cynyddwn ein harfau, cryfhawn ein lluoedd arfog - awn ati i orchfygu!
Dwy agwedd
Dau wleidydd, dwy agwedd. Nelson Mandela yn cymodi, cydweithio a datblygu dealltwriaeth. Tony Blair yn talu'r pwyth yn 么l, am orchfygu a goresgyn, a hynny'n gwbl ddiedifar.
Hanes a benderfyna pa un o'r ddau ddaeth 芒 rhyddid a chyfiawnder i'r hil ddynol.