Rwy'n si诺r bod nifer ohonom ni sydd wedi'n magu yn ne Cymru yn cysylltu tref Dinbych y Pysgod a thripiau Ysgol Sul!
Tybed a fuoch chi yn un o'r miloedd a wnaeth y bererindod flynyddol i'r traethau yno, cerdded ar hyd y strydoedd hynod a hyd yn oed mentro mewn cwch ar y fordaith fer i'r Ynys Byr.
Wrth grwydro'r dre, tybed a fu i chi ymweld erioed ag Eglwys y Santes Fair? Eglwys yw hon a'i th诺r main yn estyn yn uchel uwchlaw adeiladau'r dre.
Yn yr Eglwys hon bu Gerallt Gymro yn rheithor.
Mae'r Eglwys yn dathlu ei phen-blwydd yn 800 oed eleni, a chynhaliwyd oedfa arbennig yno y ddoe dan arweiniad Archesgob Cymru i nodi'r ffaith honno.
Gerallt Gymro oedd rheithor cyntaf yr eglwys honno. Cafodd ei benodi yn 1210 ar 么l ymdrech egniol ond aflwyddiannus i sicrhau fod gan Gymru Archesgob ar wah芒n.
Diwrnod i nodi'r wyth canmlwyddiant oedd y diwrnod yn Ninbych y Pysgod ddoe ond, wrth gwrs, fe gofir am Gerallt Gymro hefyd am iddo gofnodi hanes Cymru yn y canol oesoedd.
Caiff ei werthfawrogi'n bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif.
Ie, wn ni ddim yn iawn lle fydde ni fel cenedl heddiw oni bai bod rhai wedi mynd ati ar hyd y canrifoedd i gofnodi ei hanes.
Er nad yw'n wlad fawr o ran ei maint mae hanes Cymru yn hir a diddorol ac yn llenwi cyfrolau a chyfrolau.
Ond nid pawb ohonom sydd wedi etifeddu'r ddawn arbennig o fedru cofnodi ffeithiau hanesyddol rhwng cloriau llyfrau medd rhai.
A chlywaf eraill yn cwyno nad ydynt yn gallu cofio ffeithiau hanesyddol - esgusodion!
Mae digwyddiadau heddiw yn creu hanes yfory.
Ein cyfrifoldeb ni oll yw cadw cof ein cenedl yn fyw drwy sgwrsio'r hanes o ddydd i ddydd a chadw ein diddordeb ninnau a diddordeb ein plant ynddo, yn fyw.