gan Aled Lewis Evans
Bore Mercher Ionawr 27 2010
Ddoe yn Amlosgfa Pentrebychan roeddwn yn angladd g诺r arbennig iawn yn ardal Wrecsam - y Dr Gareth Williams.
Mae c芒n enwog o'r sioeau, All That Jazz, a dyna'r g芒n a ddaeth i'r meddwl wrth gofio Dr Gareth. Nid yn unig oherwydd ei hoffter o jas ond hefyd oherwydd ei fod o'n bersonoliaeth liwgar ac unigryw.
Cynfas eang
Fel ap锚l y jas roedd gan Dr Gareth gynfas eang i'w fywyd ond hefyd wreiddiau mewn traddodiad.
Dim ond jas traddodiadol a wn芒i'r tro iddo fo.
Yn Gymro i'r carn, fe'i ganed ym Mhenmachno. Meddyg oedd ei Dad o'i flaen, a magwyd yntau ar aelwyd Llys Meddyg.
Fel y Jas roedd Dr Gareth yn 诺r llawn bwrlwm a brwdfrydedd. Byddai perfformwyr gorau Cymru yn mwynhau croeso ar ei aelwyd ym Machno, Bwlchgwyn - yn arbennig Hogia'r Wyddfa.
Yn 么l y teulu roedd o fel groupie i'r Hogia am gyfnod.
Bu'n gofalu am d卯m p锚l-droed plant ym Mwlchgwyn, ac mae Mavis ei wraig yn cofio plant yn dod at y drws a gofyn pryd yr oedd Dr Gareth yn dod allan i chwarae.
Enaid a dyfnder
Hefyd fel y jas, roedd i bersonoliaeth Dr Gareth enaid a dyfnder. Roedd yn 诺r a oedd yn gweld ymhell, a dawn i ddeall ac anwylo ei hun at gymaint o wahanol bobl, a'r ddawn i 'ddarllen' cymeriad.
Yn ei waith pwysig fel meddyg plant, deuai yn ymwybodol iawn o blant oedd yn cael eu cam-drin ac efo'i galon fawr, cyn hir byddent yn rhan o aelwyd Machno ac yno'n cael adfer hunan werth yn ei gwmni o a'r teulu.
Wrth drefnu gweithgareddau i Nia, Dewi, Eifion a Huw, yn aml byddai plant eraill yn dod efo nhw yn rhan o'r criw i gael 'diwrnod allan' o ganol eu cyfyngder.
Mae'n braf cael ei gofio'r bore 'ma.
I'r carn
Nid gwr y sefydliadau crefyddol oedd Dr Gareth, ond Cristion i'r carn fel yr oedd ei fywyd a'i waith ynddynt eu hunain yn tystio.
Colled i'w deulu, colled i ardal Wrecsam a cholled i Gymru gyfan yn awr bod dyn yr All that jazz wedi tawelu.
Ond mae'r alaw yn fyw yn y cof, ac yn bwysicach na hynny mewn cornel fach o galonnau pawb a ddaeth i gysylltiad ag o.
Bydd alaw hardd ei fywyd da yn dal i seinio. Dr Gareth, dyn y jas a meddyg y filltir arall.