Rhagweld dyfodol disglair
Llusgo tu 么l i gar ro'n i tu allan i Gaernarfon 'cw - Honda Civic Sport.
Toc, mi ddois i'n ddigon agos i fedru darllen y sgwennu yn Saesneg ar y ffenest gefn: "Rhyw ddydd bydd y babi sy'n cael ei gario yn y car yma yn chwarae p锚l-droed i Man U."
Wrth fynd heibio mi ges i gip ar y babi gwyrthiol. Roedd o - a dwi'n cymryd mai fo oedd o - wedi'i strapio i gadair a sig芒r o ddymi, hir, yn sticio allan o'i geg o.
R诺an, be fyddai'i oed o? Dydw i ddim yn dda iawn hefo pethau fel'na. Ychydig fisoedd ar y gorau.
Cwcio nid cicio?
Dyna ichi be oedd proffwydoliaeth.
Ond, wrth dyfu i fyny, hwyrach y bydd hi'n well gan yr hogyn gwcio hefo'i fam na chicio p锚l hefo'i dad.
Ac mewn ugain mlynedd, pwy a 诺yr na fydd y Man U pwerus - ella 'mod i'n pechu wrth feddwl, cofiwch - yn yr un gynghrair 芒 Chaernarfon 'cw ac yn chwarae yn yr Ofal ambell i bnawn Sadwrn.
Ond nid proffwydoliaeth oedd y peth ond breuddwyd 'te. Ac fe all breuddwyd droi'n symbyliad.
Un o arwyr yr hen flwyddyn oedd Suzan Boyle: wedi'i geni ar ddydd Ff诺l Ebrill, wedi ei magu dan gawodydd o anfanteision ond yn wyth a deugain oed yn troi breuddwyd yn ffaith. A'r g芒n? I Dreamed a Dream!
Llinell Gymraeg
Yma ar y Post Cyntaf ddoe - ac ar raglenni eraill - mi fu cryn gyfeirio at y Samariaid, yma ym Mangor, yn lansio llinell gymorth yn yr iaith Gymraeg o saith hyd unarddeg bob nos o'r flwyddyn.
"Ond," meddai un a glywodd yr eitem, ''dydi pawb heddiw yn medru Saesneg."
Marciau llawn! Eto, pe tawn i mewn argyfwng mi fasa'n haws gen i ddeud fy nghwyn yn fy iaith gyntaf.
Ta waeth, am saith neithiwr fe ddigwyddodd y wyrth. Ro'n i'n dyst i'r digwyddiad.
Ia, os cafodd rhywun freuddwyd erioed Chad Varah oedd hwnnw sylfaenydd y Samariaid. Ond dydw i ddim yn meddwl mai breuddwyd gafodd o ond gweledigaeth. Mae hynny'n wahanol eto.