Fel rhan o wasanaeth cyhoeddus y 91热爆, dyma eich hatgoffa ei bod hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen ddydd Llun.
Nawr, nid y fi fydd yn dweud ei dweud y bore hwnnw, felly alla i ddim addo y cewch chi eich atgoffa bryd hynny!
Ond i'r rheiny ohonoch sy wedi codi'n gynnar heddiw, dyma roi cyfle ichi achub y blaen ar eich cymar.
Cerdyn neu weithred
Cofiwch feddwl am gerdyn neu ychydig o flodau, pryd neis o fwyd neu rhyw weithred ramantus - paned yn y bore, cyflawni rhyw waith t欧 diflas heb i neb ofyn ichi wneud - yn wir unrhyw beth sy'n dangos eich bod chi'n gwerthfawrogi cwmpeini eich cariad bob dydd o'r flwyddyn ond eich bod yn ei nodi'n arbennig ar ddiwrnod nawddsant y cariadon, y pumed ar hugain o Ionawr.
Pam unwaith y flwyddyn?
Ond pam fod yn rhaid gwneud y pethau hyn ond unwaith y flwyddyn?
Ie, dyna gwestiwn da. Os yw gweithredoedd fel hyn yn arwydd o serch a chariad, oni ddylen nhw fod yn rhan o'n bywydau bob dydd ni?
Wel, wrth gwrs, mewn byd perffaith, fe ddylen nhw fod, rwy'n cytuno. Ond pwy ohonon ni sy'n byw mewn byd perffaith?
Pwy ohonon ni all ddweud 芒'n llaw ar ein calon nad ydyn ni wedi bod yn rhy brysur i roi cusan i'r g诺r cyn rhuthro mas o'r t欧, neu wedi esgeuluso dweud, "Ti yw trysor penna fy mywyd," wrth ei wraig?
Mwy na sbort
Falle taw ychydig bach o hwyl yw Diwrnod Santes Dwynwen, ond mae'r syniad o gael diwrnod i aros a meddwl am gariad yn llawer pwysicach na bach o sbort.
Ac nid yn unig am serch a rhamant y gallwn ni bendroni, nage? Onid cariad yw elfen bwysicaf ein hymwneud 芒'n gilydd?
Cerwch eich gilydd fel y cerais i chwi, meddai Iesu. Nawr, dyna her.