O law i law
O 'mlaen i yma mae gen i doriad o'r Dail Mail. Ond mi ddo'i at hynny'n nes ymlaen.
Ro'n i'n chwech oed yn mynd i'r ysgol am y tro cyntaf a fy syniad i, am a wn i, oedd y bydda'r athrawes yn rhoi help imi drio dal i fyny.
(Nid 'mod i byth wedi gneud hynny, cofiwch.)
Ond fe sylweddolwyd bod gen i anabledd - yn eu syniad nhw - 'mod i'n sgwennu hefo fy llaw chwith. Fe dreuliwyd tymor yn ceisio cywiro'r gwall.
A hefo'r llaw dde y b没m i'n sgriblo, wedyn, am ugain mlynedd - nes gadael coleg.
Fe ddeudodd un arholwr allanol - sy'n byw, bellach, ar Ynys M么n - mai fy sgwennu i oedd y mwyaf annealladwy welodd o erioed.
Hefo'r chwith y bydda i'n sgwennu pob dim bellach - ond sieciau. Dydi sgwennu siec ddim mo'r gwaith hawdda' ar y gorau. Ond ceisiwch chi sgwennu un hefo llaw chwith.
Pianydd cyngherddau
Yn y Daily Mail fwrw Sul roedd hanes Nicholas MacCarthy, sy'n astudio cerddoriaeth yn y Coleg Brenhinol ac sy'n bianydd cyngherddau go eithriadol.
R诺an, dim ond amrywiad ydi llawchwithdod. Ond un llaw sydd gan Nicholas MacCarthy a dwi'n gweld, o edrych ar ei lun o, mai'r un chwith ydi honno.
A wyddwn i ddim o'r blaen bod yna gymaint o gerddoriaeth ar gyfer llaw chwith.
Cryfder MacCarthy, meddai'r stori, ydi iddo fo weld ei anabledd yn fantais. Mi wn i na fedr hynny ddim bod yn wir am bawb, bob amser. Ond diolch ei fod o'n digwydd weithiau.
Yn Haiti
Ond yn Haiti - ac mae 90 y cant yn dal yn brin o fwyd yno yn 么l y Mail bore 'ma - nid troi anabledd yn fantais ydi'r her ond sut mae troi argyfwng yn gyfle.
Ydi, mae'r rhoddion yn dal i lifo - mae'n debyg eich bod chi wedi cyfrannu'n barod - a wyddoch chi be, ar adeg fel hyn dydi sgriblo siec hefo llaw chwith ddim yn anodd o gwbl.
Yn oes hunanol Fred the Shred, a phrynu cwt hwyaid ar bwrs y wlad, dydi'n dda bod yna ochr arall i bethau - weithiau?