91热爆

Haiti

Wyneb trychineb Haiti

Bore Iau Ionawr 14 2010
gan Huw Tegid

Cofio'n cymdogion - ym mhobman

Cawsom ychydig o newid ym mhenawdau'r newyddion ddoe wrth i'r newydd am y daeargryn yn Haiti dynnu ein sylw am ychydig oddi ar y cawodydd eira yma yng Nghymru.

Wrth i'r diwrnod ddatblygu, clywsom fod rhai cannoedd, os nad miloedd, o bobl wedi marw wrth i'r daeargryn ysgwyd y brifddinas, Port-au-Prince, a'r pentrefi cyfagos.

Cyfeiriodd sawl gohebydd at y ffaith mai Haiti ydi gwlad dlotaf y byd gorllewinol, a bod y tlodi hwnnw yn un ffactor allweddol a arweiniodd at gyfanswm mor syfrdanol o farwolaethau.

Tywod a chraig

Gyda'u henillion prin, roedd y trigolion wedi codi tai na fyddai'n cyrraedd unman yn agos at ein safonau pensaern茂ol ni yng ngweddill y byd gorllewinol.

Mae 'na ddameg yn y Beibl sy'n s么n am d欧 ar y tywod a th欧 ar graig ac yn cyfeirio at ffawd wahanol iawn y ddau d欧 pan ddaeth storm i ysgwyd eu sylfeini.

Mae nifer o dai Haiti heddiw yn ddigon tebyg i'r t欧 hwnnw ar y tywod.

Mae 'na ddameg arall yn y Beibl sy'n dechrau gyda'r cwestiwn:
"A phwy ydi fy nghymydog?"

Ysbryd 'Blitz'

Dywedir fod y cawodydd eira a'r rhew a gawsom yn ddiweddar yma ym Mhrydain wedi deffro 'ysbryd y Blitz' ym mhobl Prydain, a'n bod ni wedi ymdrechu'n galetach nag arfer i helpu pobl yn ein cymunedau lleol.

Yr hyn yr hoffwn inni ei ystyried heddiw yn ein tai diogel ydi, nid yn unig 'pwy ydi fy nghymydog?' ond 'pa mor lleol ydi fy nghymydog?'

Ydi gwlad dlotaf ein byd gorllewinol yn rhan o'ch cymdogaeth chi?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.